Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion strategol a strategaeth y dyfodol

AMCAN STRATEGOL 7: Nodi’r potensial i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus pellach sy’n ymwneud â’n gweithgarwch, gan ddefnyddio ein sgiliau, data ac adnoddau ni ein hunain

Sefydlwyd Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir yn 2003. Ers hynny, mae wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gydlynu ein holl weithgarwch rhyngwladol.

Mae’r Uned Ryngwladol wedi:

  • cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd yn disgrifio’r amrywiaeth o wasanaethau y gallwn eu cynnig i gleientiaid tramor
  • sefydlu’r ffynonellau sy’n rhoi gwaith rhyngwladol ar dendr
  • darparu cefnogaeth i’r Gweithgor UNECE ar Weinyddu Tir
  • trefnu ymweliadau astudio ar gyfer swyddogion y llywodraeth a gweinyddu tir o Wlad yr Iâ, Lithwania, Bahrain, Armenia, Slofacia, Ffrainc, Nigeria, Korea, Awstralia, Siapan, Serbia, Barbados, Sbaen, Tsieina, Latfia, Ghana, Rwsia a’r Aifft.
  • edrych am gyfleoedd pellach lle gall y Gofrestrfa Tir ddefnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad dramor
  • dechrau datblygu ein gallu i gynnig am waith sy’n cael ei gynnig ar dendr gan sefydliadau benthyg dwyochrog ac amlochrog fel Banc y Byd a’r UE (gan weithio â’n cydweithwyr yn Registers of Scotland)
  • cyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer wyth prosiect gweinyddu tir ar draws y byd
  • ymwneud â’r gwaith o sefydlu cynllun cymhwyster ar y cyd rhwng y Gofrestrfa Tir/Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, gan ddefnyddio ei phrofiad o systemau gweinyddu tir tramor i roi gwybodaeth i fyfyrwyr am reoli tir a stent.
  • croesawu ymweliad gan 26 o fyfyrwyr y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol ac Arsylwi’r Ddaear, Yr Iseldiroedd
  • trefnu secondiad cyfnod byr i swyddog o Adran Diroedd St Helena yn y Gofrestrfa Tir.

Nigeria

Buom yn rhoi cyngor ymgynghori i Weinidogaeth Ffederal Tai a Datblygu Trefol Nigeria ynglŷn â moderneiddio Cofrestrfa Tir Ffederal Nigeria. Roedd y gwaith, a noddwyd gan Lywodraeth Nigeria, yn cynnwys cyfrannu’n ymarferol mewn gweithdy deuddydd â’r teitl ‘Diwygio Arferion Cofrestru Tir yn Nigeria’. Yn ogystal, mae Cyngor Prydain wedi ein his-gontractio i gyfrannu at ei Raglen Diogelwch, Cyfiawnder a Thwf. Mae’r rhaglen, a noddir gan Adran Datblygu Rhyngwladol y DU, yn rhoi cymorth i wella gallu a chynaliadwyedd sefydliadol cofrestrfeydd tir mewn pedair talaith yn Nigeria. Rydym yn rhagweld y bydd y rhaglen yn parhau gydol 2005.

Hwngari

Rydym yn parhau i gynnig cyngor a chymorth ymarferol i’r Ganolfan Gwybodaeth Tir Ewropeaidd ym Mwdapest, a noddir gan Fanc y Byd. Mae hyn wedi cynnwys cymorth i gynhyrchu cynlluniau busnes a chyngor ar ddatblygu cynigion prosiect. Cawsom gontract gan Fanc y Byd i gynnal adolygiad diwedd grant o’r Ganolfan.

Irac

Rydym wedi darparu cymorth ymarferol i Gomisiwn Hawliadau Eiddo Irac (IPCC). Cafodd aelod o staff y Gofrestrfa Tir ei secondio i Bencadlys Awdurdod Dros Dro y Glymblaid yn Baghdad lle bu’n helpu i ddrafftio a diwygio offerynnau statudol; ymweld ag adrannau’r llywodraeth i weld pa wybodaeth am dir oedd ganddynt (a sut gallai’r Comisiwn gael mynediad iddi); helpu i greu strwythur gweinyddol ar gyfer y Comisiwn; a sefydlu patrymau llif gwaith a chamau prosesu. Mae hefyd wedi helpu i gynhyrchu cyfres o daflenni gwybodaeth i’r cyhoedd yn egluro prosesau’r Comisiwn.

Gweithgor UNCEC ar Weinyddu Tir

Mae’r Gofrestrfa Tir yn parhau i gael ei chynrychioli ar Fiwro’r Gweithgor ar Weinyddu Tir (WPLA) gan Ted Beardsall, ein Dirprwy Brif Weithredwr. O ganlyniad i’r cysylltiad hwn, cynrychiolwyd yr Uned Ryngwladol mewn gweithdy WPLA ar y thema ‘Datblygu Marchnadoedd Eiddo Real a Mynediad i Forgeisi’ a gynhaliwyd yn Armenia ym mis Mai. Yn ogystal, mae’r Uned wedi cwblhau’r gwaith a aseiniwyd iddi i greu canllawiau ar gyfer partneriaethau rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat ym maes gweinyddu tir ac mae wrthi’n cynhyrchu pedwerydd rhifyn y Rhestr o Systemau Gweinyddu Tir yn Ewrop a Gogledd America.

Land Registry Annual Review 2004

Targedau perfformiad allweddol 2004-05

Mesurau perfformiad busnes ehangach

Darpariaeth gwasanaeth gwell
Deddfwriaeth eilaidd well
Cynnwys a chwmpas cynhwysfawr erbyn 2012
Trafodion electronig newydd o 2005 (e-drawsgludo)
Gwasanaethau allweddol ar-lein erbyn 2005 (e-fusnes)
Gwasanaethau data tryloyw gwell o 2003
Gwasanaethau cyhoeddus pellach gan ddefnyddio ein sgiliau, data ac adnoddau ni ein hunain

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol