www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion strategol a strategaeth y dyfodol

AMCAN STRATEGOL 2: Cyflwyno deddfwriaeth eilaidd well ar gofrestru tir yn raddol o 2003

Ym mis Medi 2004, cyhoeddwyd dogfen ymgynghori o'r enw 'Cyflwyno Gwybodaeth Benodedig mewn Prydesi Cofrestradwy' gennym, a oedd yn holi barn ar ffyrdd amgen o gyflwyno gwybodaeth am bartïon, eiddo ac amodau mewn prydlesi cofrestradwy. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid gan gynnwys trawsgludwyr, rhoddwyr benthyg, sefydliadau ariannol, syrfewyr, gwerthwyr tai ac yswirwyr. Gan ystyried y 198 o ymatebion a gawsom, aethom ati i ddiwygio'r cynigion, gan gyfyngu'r wybodaeth ragnodedig i'r wybodaeth honno sy'n gwbl hanfodol ar gyfer cofrestru. Ar ôl trafodaethau pellach gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ac adolygiad mewnol pellach, rydym yn gobeithio cyflwyno ein cynigion i Bwyllgor Rheolu Cofrestru Tir ym Mehefin 2005.

Daeth Rhan 1 Deddf  Cyfunddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002 i rym ar 27 Medi 2004. Dyma oedd ffrwyth llafur pedair blynedd o waith caled gan dimau o'r Gofrestrfa Tir a'r Adran Materion Cyfansoddiadol.

Mae cyfunddaliad yn ddewis amgen i berchnogaeth lesddaliad hir, ac mae'r un mor berthnasol i eiddo preswyl ac eiddo masnachol fel ei gilydd, a bydd yn gymwys i dir rhydd-ddaliol cofrestredig yn unig. Bydd perchnogion eiddo yn berchen ar rydd-ddaliad eu heiddo unigol a bydd ganddynt fudd mewn cymdeithas a fydd yn berchen ar rannau cyffredin yr adeilad neu ddatblygiad ac yn eu rheoli. Bydd pob cyfunddaliad yn cael ei gofrestru yn y Gofrestrfa Tir. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau helaeth ar gyfer trawsgludwyr ar yr agweddau cofrestru ar y system newydd.

Land Registry Annual Review 2004

Targedau perfformiad allweddol 2004-05

Mesurau perfformiad busnes ehangach

Darpariaeth gwasanaeth gwell
Deddfwriaeth eilaidd well
Cynnwys a chwmpas cynhwysfawr erbyn 2012
Trafodion electronig newydd o 2005 (e-drawsgludo)
Gwasanaethau allweddol ar-lein erbyn 2005 (e-fusnes)
Gwasanaethau data tryloyw gwell o 2003
Gwasanaethau cyhoeddus pellach gan ddefnyddio ein sgiliau, data ac adnoddau ni ein hunain

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol