Perfformiad, cynnydd tuag at amcanion straegol a strategaeth y dyfodol
AMCAN STRATEGOL 6: Darparu gwasanaethau data cenedlaethol, rhanbarthol ac ardal tryloyw gwell i’r farchnad eiddo o 2003
Ym mis Rhagfyr 2004, aethom ati i drwyddedu ailddefnyddio ein data prisiau eiddo ar gyfer cyfeiriadau unigol. Cafodd y gwasanaeth newydd hwn ei ganmol gan y cyfryngau fel enghraifft dda o asiantaeth y llywodraeth yn rhyddhau data gwerthfawr er mwyn i’r sector masnachol ymelwa arno. Mae’r gwasanaeth wedi cael derbyniad da. Mae cwsmeriaid yn defnyddio’r data i ddarparu gwefannau a modelau prisio eiddo gan fwyaf, gan gynyddu tryloywder prisiau tai yn sylweddol. Rydym yn defnyddio’r gwasanaeth hwn i dreialu a gwella ein polisi a strategaeth trwyddedu.
Mae’r Gofrestrfa Tir wedi ei hachredu’n aelod o Gynllun Masnachwr Teg Gwybodaeth (IFTS) Llyfrfa Ei Mawrhydi. Mae gwybodaeth a gynhyrchir gan y Gofrestrfa Tir yn cael ei diogelu gan hawlfraint y Goron a, bellach, gall Rheolydd y Llyfrfa ddirprwyo awdurdod i ni i bennu polisi prisio ar gyfer trwyddedu defnydd drachefn o’n gwybodaeth.
Yn ddiweddar, gwnaethom gais am gyngor ar fater diogelu data ac ar a oes gennym ddigon o bwerau i ddarparu gwasanaethau anstatudol fel gwerthu setiau data prisiau a dalwyd a pholygonau ystent. Yn ôl y Comisiynydd Gwybodaeth, os yw’r set ddata rydym am ei gwerthu yn canolbwyntio ar yr eiddo ac nid ar yr unigolyn, ni chaiff y data ei ystyried yn ddata personol.