Amcanion strategol ar gyfer 2005-6
Bydd ein Cynllun Strategol 10 Mlynedd yn gorffen yn 2015 ac mae’n disgrifio sut bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflawni ei chenhadaeth.
- Byddwn yn mynd i’r afael ag amcanion strategol 1 a 2 trwy barhau i wella ein gwasanaethau a sicrhau bod ein deddfwriaeth yn gyfredol ac yn diwallu anghenion ein budd-ddeiliaid
- Rydym yn disgwyl cyflawni amcan strategol 3 erbyn 2012 trwy gwblhau’r gofrestr tir ar gyfer Cymru a Lloegr.
- Byddwn yn cyflawni amcanion strategol 4, 5 a 6 yn raddol gydol oes y cynllun.
Amcanion strategol 2005–06
1. Parhau i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau i'n holl fudd-ddeiliaid
2. Darparu deddfwriaeth eilaidd amserol ac effeithiol mewn perthynas â chofrestru tir
3. Creu cofrestr tir gynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr
4. Cyflwyno system drawsgludo electronig a fydd yn cael ei defnyddio i weithredu’r rhan fwyaf o drafodion eiddo
5. Sicrhau bod yr holl ddata cofrestru tir ar gael i bawb yn electronig
6. Datblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gyfer gweithwyr eiddo proffesiynol, y cyhoedd ac eraill
Mae hon yn agenda uchelgeisiol. Ond byddwn yn ei chyflawni, oherwydd ein bod mor benderfynol o wneud trafodion eiddo yn haws i bawb. Dyna’n gweledigaeth.
Ein dymuniad yw rhoi'r Gofrestrfa Tir wrth wraidd y farchnad eiddo fwyaf effeithlon yn y byd. Bydd y Gofrestrfa Tir yn gwneud y farchnad hon yn dryloyw trwy helpu prynwyr a gwerthwyr gyda’r hyn sy’n debygol o fod yn drafodiad pwysicaf eu bywyd. Marchnad eiddo y mae pawb yn gallu hyderu ynddi am eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd.