RHAGAIR: PRIF GOFRESTRYDD TIR A PHRIF WEITHREDWR
Blwyddyn lwyddiannus arall Er iddi fod yn flwyddyn anodd iawn, cawsom bleser mawr yn goresgyn yr holl rwystrau mewn blwyddyn hanesyddol arall o ran cyflawniadau. Yn ystod y flwyddyn: - cynyddodd y llwyth gwaith gyda chynnydd o 3 y cant mewn gwaith yn dod i mewn ac yn mynd allan.
- gostyngodd incwm ffioedd mymryn o £397.3 miliwn yn 2004/5 i £395.4 miliwn
- gostyngodd gwariant o £369.19 miliwn i £364.68 miliwn.
Dywedodd 99 y cant o gwsmeriaid eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn gyda’r amrywiaeth lawn o wasanaethau a ddarperir – tipyn o gamp. Roedd cyfanswm o 86 y cant o gwsmeriaid o’r farn ein bod yn ‘llawer gwell’ neu’n ‘well’ nag eraill yn y sector cyhoeddus. Roedd 79 y cant o’r farn ein bod yn ‘llawer gwell’ neu’n ‘well’ na rhai yn y sector preifat. - Cofrestrwyd 5 y cant yn fwy o dir rhydd-ddaliol yng Nghymru a Lloegr – sy’n cyfateb yn fras o ran maint i Ogledd Swydd Caerefrog.
- Cwblhawyd y mwyafrif o drafodion eiddo rheolaidd sy’n effeithio ar deitlau cofrestredig cyfan ar y diwrnod y cawsant eu derbyn.
- Mae gweithredoedd wedi’u sganio y cyfeirir atynt ar y gofrestr ar gael yn electronig drwy’r Gofrestrfa Tir Ar-lein. Gall unrhyw un felly weld cynllun teitl ac unrhyw weithred y cyfeirir ati ar y gofrestr honno. rhagor....
|