Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006

Rydym yn ymwybodol iawn o’r angen i gynnal hyder trawsgludwyr a benthycwyr ynghyd â’r cyhoedd drwy fynd ati’n bwyllog. Mae hyder wrth wraidd cofrestru tir.

  • Byddwn yn dal ati gyda’r Gofrestr Tir gynhwysfawr drwy ymrwymo i gofrestru 700,000 hectar pellach yn 2006/7, sy’n cyfateb fwy neu lai i 5 y cant o Gymru a Lloegr.
  • Bydd trawsgludo electronig yn trawsnewid ffordd y bydd pobl yn prynu a gwerthu eiddo a bydd e-lofnodion yn golygu y gellir trosglwyddo dogfennau’n hollol ddiogel.
  • Cyflwynir Cadwyn Matrics yn 2007. Bydd hyn yn galluogi cwsmeriaid i weld beth sy’n digwydd i’w cadwyn ar-lein a gwneud penderfyniadau buan, goleuedig.

Rydym yn ceisio cyfathrebu mor onest ac agored â phosib a gwrando ar safbwyntiau, gofidiau a phryderon ein cydweithwyr. Ein her yw rheoli’r newid i sefydliad llai, mwy cryno wrth i ni gamu i’r degawd nesaf.

Fel arfer, hoffwn orffen drwy ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo i wneud 2005/6 yn flwyddyn i’w chofio: ein cwsmeriaid, ein partneriaid busnes, ein Gweinidogion, ein budd-ddeiliaid eraill – a heb anghofio ein staff rhagorol sy’n barod i ymateb i bob her bob amser. Ar ran fy nghyd gyfarwyddwyr, diolch o galon iddynt oll.


Peter Collis, Gorffennaf 2006
Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Prif Ddewislen


Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth

Ein holl fusnes

Perfformiad yn erbyn ein targedau perfformiad allweddol