Strategaeth ar gyfer 2006/7 Yn 2006/7 bydd ein Cynllun Strategol 10-Mlynedd treigl yn ei bumed flwyddyn www.cofrestrfatir.gov.uk/strategy
Gwasanaeth cwsmeriaid a gweithrediadau Mae’r diwylliant o sicrhau bod y mwyafrif o drafodion eiddo arferol sy’n effeithio ar deitl cofrestredig cyfan yn cael eu cwblhau ar yr un diwrnod yn rhan o'n patrwm gwaith bellach. Rydym wedi ymestyn yr arfer hwn i geisiadau teitl newydd ym mhob swyddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bydd y broses hon yn parhau yn 2006/7. Rydym yn ymrwymedig i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol er mwyn cyflwyno gwelliannau pellach i’n gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydym yn ceisio darparu opsiwn ar-lein sy’n wahanol i’r chwiliad testunol arferol ar gyfer ymholiadau am statws cofrestredig cyfredol tir, ar ffurf map, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chwilio ar sail testun. Deddfwriaeth Cofrestru Tir Prif waith y flwyddyn fydd datblygu’r ddeddfwriaeth eilaidd sydd ei hangen i gefnogi e-drawsgludo, gan gynnwys cytundebau mynediad i'r rhwydwaith. Byddwn yn ymgynghori’n eang ar y ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei llunio. Cofrestr Tir Gynhwysfawr Yn 2005/6 cyflwynwyd targedau perfformiad newydd ar gyfer cynyddu’r tir rhydd-ddaliol a gofrestrir yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi creu rhwydwaith newydd sbon o dimau datblygu’r gofrestr a busnes newydd mewn swyddfeydd lleol er mwyn bwrw’r maen i’r wal a phrosesu’r gwaith hwn. Ar ôl cyrraedd y targed, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r seilwaith newydd i fynd ati i grynhoi Cofrestr Tir gynhwysfawr. Mae targed 2006/7 ar sail ardal yn hytrach na chanran (700,000 hectar) fel y gallwn osod targedau mwy effeithiol ac eglur mewn swyddfeydd lleol.
|