Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006


AMCAN STRATEGOL 1: Parhau i wneud gwelliannau i’r gwasanaethau a ddarperir i bob budd-ddeiliad.


Mynediad ar-lein i weithredoedd wedi’u sganio

Mae gweithredoedd wedi’u sganio y cyfeirir atynt ar y Gofrestr Tir ar gael i gwsmeriaid busnes trwy ddefnyddio’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol.  Mae’r rhain ar gael hefyd trwy’r Gofrestr Tir Ar-lein
http://www.landregisteronline.gov.uk/lro/welsh/index.html


Strategaeth e-wasanaethau


Mae cyflawni ein targed perfformiad allweddol sy’n ymwneud â gweithredoedd wedi’u sganio wedi ein galluogi i gyflawni targed y Prif Weinidog o ddarparu pob gwasanaeth allweddol yn electronig erbyn 2005.  Ein strategaeth yw annog cwsmeriaid i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein heb gosbi’r rhai hynny sydd am ddefnyddio dulliau traddodiadol.  Derbyniwyd 77.49 y cant drwy e-wasanaethau (i fyny o 68.09 y cant) a 22.51 y cant trwy Wasanaethau Ffôn (i lawr o 31.91 y cant).


Pwyntiau presenoldeb

Er mwyn codi ein proffil a gwneud ein gwasanaethau'n fwy hygyrch, rydym wedi treialu pwynt gwybodaeth yn swyddfa gwerthu tai Halifax yn Doncaster lle nad oes swyddfa ranbarthol.  Rhoddwyd sylw i’r gwasanaeth mewn llyfrgelloedd lleol, canolfannau cyngor ar bopeth, swyddfeydd cyngor lleol, arosfannau bws, gorsafoedd trên, y wasg am ddim leol a radio lleol.  Dangosodd holiaduron a gwblhawyd gan gwsmeriaid bod 85 y cant yn fodlon iawn gyda’r gwasanaethau a gawsant. Mae’r peilot yn cael ei werthuso ar hyn o bryd.



Prif Ddewislen


Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth

Ein holl fusnes

Perfformiad yn erbyn ein targedau perfformiad allweddol

Targedau perfformiad allweddol yn 2005/6

Mesurau perfformiad busnes yn 2005/6

Amcanion strategol

1. Gwelliannau parhaus i gyflenwi gwasanaethau

2. Deddfwriaeth eilaidd

3. Cofrestr Tir Gynhwysfawr

4. Trawsgludo Electronig

5. Data Cofrestru Tir sydd ar gael yn electronig

6. Amrywiaeth ehangach o wasanaethau

 

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol