Trawsgludo electronig AMCAN STRATEGOL 4: Cyflwyno system trawsgludo electronig ar gyfer cyflawni’r rhan fwyaf o drafodion eiddo Rydym wedi gwneud llawer o waith ar ein dull o ddarparu gwasanaethau e-drawsgludo. Rydym wedi mynd ati gam wrth gam ac yn bwriadu ei gyflwyno mewn pum cyfran.
Bydd cyfran 1 yn brototeip o Gadwyn Matrics gyda chyfranau diweddarach yn ychwanegu elfennau ymarferol ac yn ei ddarparu i fwy o ddefnyddwyr. Bydd defnyddwyr yn Portsmouth, Bryste a Fareham yn cymryd rhan yn y peilot o gyfran1 o fis Tachwedd 2006.
Bydd cyfnod peilot i bob cyfran dilynol i brofi’r gwasanaethau newydd cyn eu cyflwyno. Byddant yn cael eu treialu mewn gwahanol ardaloedd daearyddol neu gyda gwahanol garfanau o ddefnyddwyr er mwyn gofalu bod y profion yn rhai cadarn.
Bydd cyfran 2, y peilot e-drawsgludo llawn, yn cael ei lansio ym mis Hydref 2007.
Mae gwaith cynllunio manwl ar waith yn awr i gyflawni’r targed hwn a chynllunio ar gyfer y dyddiadau lansio cyfran 3 i 5.
E-gyflwyno Roedd y gwasanaeth e-gyflwyno ar gael i bob un o’r 6,000 o drawsgludwyr sy’n defnyddio’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ym mis Tachwedd 2005. Mae 17 ffurflen ar gael erbyn hyn. Ers mis Tachwedd 2005, mae mwy na 2,000 o drafodion wedi’u cyflwyno. Rydym yn canolbwyntio bellach ar ddatblygu’r ffurflenni electronig sy’n ofynnol ar gyfer cyfran 2 a chyfrannau dilynol. Mae cynlluniau ar waith hefyd i integreiddio’r datrysiad e-ddiogelwch a gaffaelwyd i’r ffurflenni cyflwyno electronig. Diweddariadau Electronig i’r Gofrestr Mae ein prosiect Diweddariadau Electronig i’r Gofrestr wedi’i gwblhau’n llwyddiannus ac ar gael i bob trawsgludwr sy’n defnyddio’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol. Mae’n golygu y gall cofrestr teitl gael ei diweddaru’n awtomatig yn dilyn cais electronig gan drawsgludwr. Gall trawsgludwr hefyd ddewis derbyn hysbysiad yn electronig ar ôl i’r cais gael ei gwblhau. Ers lansio’r gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2005, mae mwy na 600 o drafodion wedi’u derbyn gyda 82 y cant yn cael eu prosesu’n awtomatig a dim ond lleiafrif o ddefnyddwyr oedd yn gofyn am hysbysiad drwy’r post. Er ei fod yn cael ei gyfyngu i fân ddiweddariadau (fel diweddaru manylion perchnogaeth yn dilyn newid enw), mae wedi bod yn gyfle defnyddiol i brofi’r cysyniad o ddefnyddwyr y tu allan i’r Gofrestrfa Tir yn newid y gofrestr yn electronig a bydd yn ein cynorthwyo i wneud e-drawsgludo yn fwy ymarferol. E-ddiogelwch Diolch i’n prosiect dilysu dogfen, bu modd i ni dreialu opsiynau ar gyfer llofnodion digidol gyda rhai o’n cwsmeriaid a chafwyd ymateb positif gan ddefnyddwyr y peilot. Rydym wedi dechrau caffael datrysiad diogelwch electronig cadarn ar gyfer rhyddhau gwasanaethau e-drawsgludo o 2007 ymlaen. Yn y cyfamser, mae mesurau diogelwch ar-lein cyfredol yn cael eu defnyddio i gynorthwyo ein prototeip, Cadwyn Matrics, o hydref 2006 ymlaen.
|