Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006

Data Cofrestru Tir sydd ar gael yn electronig

AMCAN STRATEGOL 5: Sicrhau bod holl ddata’r Gofrestrfa Tir ar gael yn electronig i bawb

Y Gofrestr Tir

Cafodd y gofrestr olaf ei gwneud yn un gyfrifiadurol yn 2003-04, felly mae’r Gofrestr Tir yn gwbl electronig bellach. Mae’n galluogi ein cwsmeriaid i gael mynediad i’n cofnodion yn electronig trwy ddau brif e-wasanaeth: y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ar gyfer ein cwsmeriaid busnes sydd â chyfrif; a’r Gofrestr Tir Ar-lein ar gyfer y cyhoedd. Mae’r Gofrestr Tir yn cynnwys bron i 20.513 miliwn o deitlau cofrestredig erbyn hyn.

Y Gofrestr Tir Ar-lein

Mae’r Gofrestr Tir Ar-lein, sydd wedi’i hanelu at y cyhoedd, yn parhau i ddod yn fwy poblogaidd a chynhyrchodd incwm ffioedd o £2,438,422. Gwelwyd yr incwm ffiïoedd uchaf erioed mewn mis o £286,074 ym mis Mawrth 2006.
A significant factor in this growth has been the marketing campaign run by our Marketing and Communication Team. About 15 per cent of Land Register Online business now arrives through online advertising and this is increasing each month.

Enillodd y Gofrestr Tir Ar-lein Wobr Arloesi e-Lywodraeth yn seremoni Gwobrau Cyfathrebu Da 2005 a gynhaliwyd yn BAFTA, Llundain, ym mis Tachwedd 2005.

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Wedi’i thargedu ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn bennaf, y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol yw ein gwasanaeth electronig prysuraf heb amheuaeth.

  • Y sefydliadau sy’n ei defnyddio – 12,019 (i fyny o 10,332 yn y chwe mis diwethaf).
  • Yr unigolion sy’n ei defnyddio – 122,000 (i fyny o 91,000).
  • Trafodion – 1,571,609 o drafodion ym mis Mawrth 2006, yn cynrychioli ffïoedd o £3,096,210 – ei hincwm ffïoedd misol uchaf erioed.
  • Incwm ffïoedd – £28,294,165 (i fyny o £19,945,083).

Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS)

Mae NLIS yn wasanaeth masnachol gyda thair sianel sy'n cynnig trawsgludo ar-lein a gwasanaethau chwilio eraill trwy'r rhyngrwyd i gyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig ledled Cymru a Lloegr. Mae'r sianeli yn cystadlu yn y farchnad ac yn gwahaniaethu rhwng eu gwahanol wasanaethau trwy becynnu a chyflwyno'r wybodaeth yn ôl eu cynulleidfa darged.  Mae canolbwynt NLIS yn borth ar gyfer gwybodaeth a gwasanaethau gan nifer o gyflenwyr data ac mae'n darparu gwasanaeth monitro chwiliadau, a chyfleusterau anfoenbu a thalu.

Mae'r Gofrestrfa Tir wedi cefnogi'r GGTC o'r cychwyn cyntaf ac rydym yn parhau i fod yn brif ddarparwr data i'r gwasanaeth hwnnw.

Ym mis Mawrth 2006 cafwyd 1,571,609 o drafodion, y nifer uchaf erioed o drafodion – yn cynrychioli ffïoedd o £423,358. Gorffennodd y flwyddyn gyda chyfanswm incwm ffïoedd o £4,205,079 (i fyny 47.4 y cant).

Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Ewropeaidd (EULIS)

Darparu mynediad byd-eang hawdd i wybodaeth tir ac eiddo electronig Ewropeaidd er mwyn hyrwyddo ac ategu marchnad eiddo Ewropeaidd unigol’.

                                                                                                            (Amcan y rhaglen)

Dechreuodd prosiect EULIS yn 2002. Erbyn 2004 roedd consortiwm o wyth cofrestrfa tir Ewropeaidd, gan gynnwys Cofrestrfa Tir Cymru a Lloegr a Chofrestri'r Alban, wedi profi'r cysyniad, nodi’r galw gan gwsmeriaid a llunio achos busnes.  

Mae'r Gofrestrfa Tir wedi bod ar flaen y gad yn gwella gwefan bresennol EULIS trwy ddatblygu nodweddion trafodion ar-lein a fydd ar gael yn haf 2006. Mae cydweithredu agos â'n sefydliadau partner Ewropeaidd yn parhau wrth i ni ddatblygu porth EULIS (sy’n cael ei noddi gan Norwy) - porth cyffredin ar gyfer holl drafodion EULIS.

 

Prif Ddewislen


Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth

Ein holl fusnes

Perfformiad yn erbyn ein targedau perfformiad allweddol

Targedau perfformiad allweddol yn 2005/6

Mesurau perfformiad busnes yn 2005/6

Amcanion strategol

1. Gwelliannau parhaus i gyflenwi gwasanaethau

2. Deddfwriaeth eilaidd

3. Cofrestr Tir Gynhwysfawr

4. Trawsgludo Electronig

5. Data Cofrestru Tir sydd ar gael yn electronig

6. Amrywiaeth ehangach o wasanaethau

 

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol