Amrywiaeth ehangach o wasanaethau AMCAN STRATEGOL 6: Datblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i weithwyr proffesiynol eiddo, y cyhoedd ac eraill Gwasanaethau masnachol Bydd astudiaeth y Swyddfa Masnachu Teg o ddeiliaid gwybodaeth sector cyhoeddus yn cynnig modd i ni ystyried y posibilrwydd o ymgymryd â gwaith masnachol. Bwriadwn ddefnyddio'r astudiaeth hon i ymchwilio i nifer o fodelau fframwaith busnes eraill i ddatblygu a marchnata 'gwasanaethau masnachol' newydd.
Ar hyn o bryd rydym yn treialu dau wasanaeth ymgynghori, anstatudol, newydd. Mae'r cyntaf yn cynnig modd i ni fonitro newidiadau i'r gofrestr ar bortffolio arbennig o eiddo ac mae'r ail yn cynnig modd i ni gyfateb, ac felly 'glanhau' data ar ran sefydliadau masnachol.
Bydd darpar gwsmeriaid ar gyfer y cyntaf o'r gwasanaethau hyn yn amrywiol iawn ac yn cynnwys awdurdodau lleol (at ddiben monitro newidiadau i'w cofnodion treth cyngor) a darparwyr prif brosiectau isadeiledd, megis yr Asiantaeth Priffyrdd. Mae darpar gwsmeriaid ar gyfer yr ail wasanaeth yn cynnwys sefydliadau ariannol mawr sydd eisiau dilysu perchnogaeth eiddo darpar gymerwyr benthyg o fewn y farchnad benthyciadau anwarantedig gan felly leihau ceisiadau twyllodrus am fenthyciadau.
Uned Ryngwladol Sefydlwyd Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir yn 2003. Mae wedi cyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau yn ystod y flwyddyn. - Astudiaeth werthuso dros bythefnos o raglen Cofrestru Teitl Tir Barbados.
- Uwchraddio systemau TG Cofrestrfa Tir Alderney.
- Gyda’r Grŵp e-Fusnes a chydweithwyr o Fiwrô Arolygu a Chofrestru Tir Bahrain (SLRB), annerch symposiwm ar gofrestru tir yn y byd Arabaidd.
- Darparu mewnbwn i raglen Diogelwch, Cyfiawnder a Thwf a noddwyd gan Adran Datblygiad Rhyngwladol y DU (DFID) yn Nigeria. Gan weithio gyda Chyngor Prydain, buom yn cynnig arweiniad ymarferol a thechnegol i helpu i wella gweithrediadau cofrestru tir yng ngwladwriaethau Lagos, Kano, Enugu a Benue.
- Darparu cymorth technegol i Gofrestrfa Tir Ffederal Nigeria, sydd â rôl allweddol yn natblygiad strategaeth cofrestru tir genedlaethol gynhwysfawr. Arwyddwyd memorandwm dealltwriaeth gyda Gweinidogaeth Ffederal Tai a Datblygu Trefol, sy'n gyfrifol am y Gofrestrfa Tir Ffederal, gyda'r nod o ddarparu cyngor ac arweiniad mewn meysydd sy'n cynnwys materion sefydliadol a strwythurol, adeiladu gallu, diwygio'r cyfreithiau tir ac eiddo, creu safonau technegol cenedlaethol a chymhwyso technoleg.
- Rydym wedi ceisio cydweithio ymhellach â DFID ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio ein profiad a'n harbenigedd mewn mannau eraill. O ganlyniad, rydym wedi cwrdd â swyddogion sy'n gyfrifol am gyflawni prosiectau gweinyddu tir yn yr India a Ghana i drafod sut y gallwn eu helpu. Rydym hefyd wedi darparu mewnbwn uniongyrchol i weithdy ymgynghorol ar bolisi tir yn Affrica, a drefnwyd gan yr Undeb Affricanaidd mewn cydweithrediad â Chomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica a Banc Datblygu Affrica ac a noddwyd gan DFID.
- Gan weithio gyda'n cydweithwyr o Grŵp Ymgynghoriaeth Ryngwladol Cofrestri'r Alban, rydym hefyd wedi paratoi ceisiadau ar gyfer gwaith cysylltiedig â chofrestru tir yn Slofenia, Lesotho a Mozambique.
- Mynychodd Ted Beardsall, ein Dirprwy Brif Weithredwr, ynghyd ag aelodau o'r Uned Ryngwladol, bedwaredd sesiwn Gweithgor UNECE ar Weinyddu Tir (WPLA).
- Rydym yn parhau i gydweithredu â'n cydweithwyr yn SLRB. Ym mis Tachwedd, trefnwyd ymweliad astudiaeth am wythnos â'n Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth a leolir yn Plymouth ar gyfer uwch swyddogion SLRB.
|