Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Go to Add Value Services
Go to Information Charter
Go to Publication schemes

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006

 

Amrywiaeth ehangach o wasanaethau

AMCAN STRATEGOL 6:  Datblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i weithwyr proffesiynol eiddo, y cyhoedd ac eraill

Gwasanaethau masnachol


Bydd astudiaeth y Swyddfa Masnachu Teg o ddeiliaid gwybodaeth sector cyhoeddus yn cynnig modd i ni ystyried y posibilrwydd o ymgymryd â gwaith masnachol. Bwriadwn ddefnyddio'r astudiaeth hon i ymchwilio i nifer o fodelau fframwaith busnes eraill i ddatblygu a marchnata 'gwasanaethau masnachol' newydd.

Ar hyn o bryd rydym yn treialu dau wasanaeth ymgynghori, anstatudol, newydd. Mae'r cyntaf yn cynnig modd i ni fonitro newidiadau i'r gofrestr ar bortffolio arbennig o eiddo ac mae'r ail yn cynnig modd i ni gyfateb, ac felly 'glanhau' data ar ran sefydliadau masnachol.

Bydd darpar gwsmeriaid ar gyfer y cyntaf o'r gwasanaethau hyn yn amrywiol iawn ac yn cynnwys awdurdodau lleol (at ddiben monitro newidiadau i'w cofnodion treth cyngor) a darparwyr prif brosiectau isadeiledd, megis yr Asiantaeth Priffyrdd. Mae darpar gwsmeriaid ar gyfer yr ail wasanaeth yn cynnwys sefydliadau ariannol mawr sydd eisiau dilysu perchnogaeth eiddo darpar gymerwyr benthyg o fewn y farchnad benthyciadau anwarantedig gan felly leihau ceisiadau twyllodrus am fenthyciadau.

Uned Ryngwladol

Sefydlwyd Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir yn 2003. Mae wedi cyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau yn ystod y flwyddyn.

  • Astudiaeth werthuso dros bythefnos o raglen Cofrestru Teitl Tir Barbados.
  • Uwchraddio systemau TG Cofrestrfa Tir Alderney.
  • Gyda’r Grŵp e-Fusnes a chydweithwyr o Fiwrô Arolygu a Chofrestru Tir Bahrain (SLRB), annerch symposiwm ar gofrestru tir yn y byd Arabaidd.  
  • Darparu mewnbwn i raglen Diogelwch, Cyfiawnder a Thwf a noddwyd gan Adran Datblygiad Rhyngwladol y DU (DFID) yn Nigeria. Gan weithio gyda Chyngor Prydain, buom yn cynnig arweiniad ymarferol a thechnegol i helpu i wella gweithrediadau cofrestru tir yng ngwladwriaethau Lagos, Kano, Enugu a Benue.
  • Darparu cymorth technegol i Gofrestrfa Tir Ffederal Nigeria, sydd â rôl allweddol yn natblygiad strategaeth cofrestru tir genedlaethol gynhwysfawr. Arwyddwyd memorandwm dealltwriaeth gyda Gweinidogaeth Ffederal Tai a Datblygu Trefol, sy'n gyfrifol am y Gofrestrfa Tir Ffederal, gyda'r nod o ddarparu cyngor ac arweiniad mewn meysydd sy'n cynnwys materion sefydliadol a strwythurol, adeiladu gallu, diwygio'r cyfreithiau tir ac eiddo, creu safonau technegol cenedlaethol a chymhwyso technoleg.
  • Rydym wedi ceisio cydweithio ymhellach â DFID ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio ein profiad a'n harbenigedd mewn mannau eraill. O ganlyniad, rydym wedi cwrdd â swyddogion sy'n gyfrifol am gyflawni prosiectau gweinyddu tir yn yr India a Ghana i drafod sut y gallwn eu helpu. Rydym hefyd wedi darparu mewnbwn uniongyrchol i weithdy ymgynghorol ar bolisi tir yn Affrica, a drefnwyd gan yr Undeb Affricanaidd mewn cydweithrediad â Chomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica a Banc Datblygu Affrica ac a noddwyd gan DFID.
  • Gan weithio gyda'n cydweithwyr o Grŵp Ymgynghoriaeth Ryngwladol Cofrestri'r Alban, rydym hefyd wedi paratoi ceisiadau ar gyfer gwaith cysylltiedig â chofrestru tir yn Slofenia, Lesotho a Mozambique.
  • Mynychodd Ted Beardsall, ein Dirprwy Brif Weithredwr, ynghyd ag aelodau o'r Uned Ryngwladol, bedwaredd sesiwn Gweithgor UNECE ar Weinyddu Tir (WPLA).
  • Rydym yn parhau i gydweithredu â'n cydweithwyr yn SLRB. Ym mis Tachwedd, trefnwyd ymweliad astudiaeth am wythnos â'n Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth a leolir yn Plymouth ar gyfer uwch swyddogion SLRB.

Prif Ddewislen


Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth

Ein holl fusnes

Perfformiad yn erbyn ein targedau perfformiad allweddol

Targedau perfformiad allweddol yn 2005/6

Mesurau perfformiad busnes ehangach yn 2005/6

Amcanion strategol

1. Gwelliannau parhaus i gyflenwi gwasanaethau

2. Deddfwriaeth eilaidd

3. Cofrestr Tir gynhwysfawr

4. Trawsgludo electronig

5. Data Cofrestru Tir sydd ar gael yn electronig


6. Amrywiaeth ehangach o wasanaethau

Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol