System Rheoli Cofnodion Electronig (ERMS) ERMS yw’r ffordd newydd y byddwn yn rheoli ein cofnodion gweinyddol, o e-byst i ohebiaeth cwsmeriaid ac o strategaeth i ddogfennau polisi.
Rydym wedi defnyddio’r seilwaith ERMS yn dactegol (ac felly mae gennym allu ERMS bellach). Mae llawer o waith uwchraddio’r feddalwedd wedi’i wneud wrth ei datblygu yn gyfleuster aeddfed a sefydlog. Ers Rhagfyr 2005 mae peilot ERMS wedi bod ar waith mewn un uned fusnes. Yn ystod mis Mawrth, ehangwyd y peilot i’n Grŵp Ystadau Asiantaeth yn y Brif Swyddfa ac ar hyn o bryd rydym yn gweithredu cyfleuster i storio gohebiaeth gwaith achos yn ERMS. |