Gwella cywirdeb lleoliadol Mae’r Arolwg Ordnans wedi darparu fersiwn wedi’i ddiweddaru o’i fap gwledig, gyda gwell cywirdeb lleoliadol, ar raddfa genedlaethol. Mae hyn wedi symud ar hap yr holl nodweddion gwledig yn y gronfa ddata, sydd wedi effeithio’n sylweddol ar ein data, gyda’r ffordd o ddangos nodweddion topograffaidd sy’n dynodi ffiniau eiddo yn symud mewn modd na ellir ei ragweld. Mae rhaglen waith ddiffiniedig ar waith i symud ein data yn unol â newidiadau’r Arolwg Ordnans. Ni fydd y rhaglen yn cael ei chwblhau hyd chwarter cyntaf 2008. |