Gwaith y Pwyllgor Archwilio Roedd gweithgareddau’r Pwyllgor yn 2005/6 yn cynnwys: - cymeradwyo polisďau ‘chwythu’r chwiban’ a thwyll newydd
- argymell gwelliannau i weithdrefnau mewnol, fel cael gwared ar asedau sefydlog a rheoli cronfeydd ariannol pwyllgorau elusen, chwaraeon a chymdeithasol swyddfeydd lleol
- adolygu aelodaeth a threfniadau ymsefydlu a hyfforddi aelodau’r Pwyllgor Archwilio
- goruchwylio datblygiad rheoli risg yn y Gofrestrfa Tir, trwy’r Bwrdd Risg Busnes, gan gynnwys prynu meddalwedd rheoli risg newydd
- derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd gan Gadeirydd y Bwrdd Risg Busnes sy’n amlygu unrhyw risgiau ac yn adrodd ar weithgarwch y gofrestr risg strategol
- adroddiadau rheolaidd o feysydd busnes eraill, fel contractau tendr unigol ac iechyd a diogelwch, i gael sicrwydd eu bod yn cydymffurfio â phrosesau iawn
- cytuno ar a monitro gwaith arfaethedig Archwilio Mewnol a thrafod canlyniadau diffygion a nodwyd
- cymeradwyo cyfrifon blynyddol a Datganiad o Reolaeth Fewnol ar gyfer yr adroddiad blynyddol.
Penodwyd un o’n Cyfarwyddwyr Anweithredol, David Rigney, yn Gadeirydd y Pwyllgor. Hefyd, penodwyd Aelod Anweithredol newydd â chefndir ariannol, Vaughan Williams, i weithio’n gyfan gwbl ar y Pwyllgor Archwilio. Nid yw Vaughan yn gyfarwyddwr, mae’n aelod ac nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldebau eraill ar y Bwrdd. Mae Jan Smith, y cyn Gadeirydd Gyfarwyddwr Anweithredol, wedi ymddeol. |