Adolygiad Bwrdd y Gofrestrfa Tir Cynhaliwyd adolygiad sylweddol o’n strwythur llywodraethu corfforaethol er mwyn ei ddiweddaru a sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag arferion gorau’r Trysorlys. O gychwyn 2006/7, bydd gennym ddau brif fwrdd. - Bwrdd y Gofrestrfa Tir (yn cynnwys Cyfarwyddwyr Anweithredol) sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol, llywodraethu da a pherfformiad cyffredinol y Gofrestrfa Tir.
- Bwrdd Gweithredol (yr un aelodau ond heb y Cyfarwyddwyr Anweithredol) sy’n cyflenwi’r cynllun busnes blynyddol ac sy’n gyfrifol am reoli’r Gofrestrfa Tir o ddydd i ddydd.
Mae’r Pwyllgorau Tâl ac Archwilio yn cael eu cadeirio gan Gyfarwyddwyr Anweithredol.
|