www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006

Datblygiad cynaliadwy

Mae’r strategaeth CSR yn cynnwys cynllun gweithredu datblygiad cynaliadwy oherwydd ein bod yn ystyried ein cyfrifoldebau amgylcheddol law yn llaw â’n cyfrifoldebau cymdeithasol ehangach ac yn eu cynnwys fel rhan annatod o’n polisi a’n strategaeth CSR. Un o’n llwyddiannau amlwg oedd cadw ein hachrediad ISO 14001. Mae nifer o swyddfeydd lleol hefyd wedi ennill gwobrau am gynaliadwyedd yn y blynyddoedd diwethaf, a hynny am eu systemau rheoli amgylcheddol ac ynni ac am arloesi wrth ailgylchu.


Rydym yn bwriadu lansio cynllun gwirfoddoli ar gyfer staff ac adolygu ein gweithdrefnau caffael i sicrhau eu bod yn gynaliadwy.


Rydym yn cydnabod bod ein gweithgareddau cyfredol yn y Gofrestrfa Tir yn cael effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn ymrwymedig i:

  • gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol perthnasol ac amcanion allweddol y llywodraeth sy’n effeithio ar weithgareddau’r sefydliad
  • atal llygredd o ganlyniad i’n gweithgareddau
  • parhau i adolygu a gwella ein perfformiad amgylcheddol
  • sicrhau bod polisi amgylcheddol yn rhan annatod o benderfyniadau busnes yn y dyfodol a newidiadau i arferion gwaith.

Yn benodol, byddwn yn cyflawni hyn trwy:

  • ystyried yr amgylchedd yn y ffyrdd rydym yn gweithredu a’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddiwn, gan ystyried deddfwriaeth amgylcheddol yn ofalus
  • gostwng ein defnydd o nwy, trydan a dŵr ac adnoddau eraill gan roi pwys ar gyflawni targedau cynaliadwyedd y llywodraeth ganolog
  • gweithredu cynllun teithio strategol i ostwng nifer y bobl sy’n teithio mewn ceir ar eu pen eu hunain, y milltiroedd busnes a deithir ar y ffordd a gollyngiadau CO2.

 

Prif Ddewislen

Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr


Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth


Ein holl fusnes


Perfformiad yn erbyn ein targedau perfformiad allweddol

Strategaeth llwyodraethu corfforaethol

Adolygiad Bwrdd y Gofrestrfa Tir

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Gwaith y Pwyllgor Archwilio

Polisïau cymdeithasol, cymunedol ac amgylcheddol

Datblygiad cynaliadwy