Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006

Y Gofrestrfa Tir ac uchafbwyntiau’r flwyddyn

Ynglŷn â’r Gofrestrfa Tir

Cenhadaeth y Gofrestrfa Tir yw darparu’r gwasanaeth gorau yn y byd ar gyfer gwarantu perchnogaeth tir a hwyluso trafodion eiddo. Dyma ein prif amcanion:

  • cynnal a datblygu system cofrestru tir sefydlog ac effeithiol ledled Cymru a Lloegr a fydd yn gonglfaen i’r gwaith o greu buddion mewn tir a’u symud yn ddirwystr
  • ar ran y Goron, gwarantu teitl ystadau cofrestredig a buddion mewn tir ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd
  •  darparu mynediad cyflym i wybodaeth gyfredol a gwarantedig am dir, gan ganiatáu deliadau hyderus o ran eiddo a sicrwydd teitl
  • darparu gwasanaethau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol.

Mae Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi (y Gofrestrfa Tir), a sefydlwyd ym 1862, yn adran o’r llywodraeth, yn asiantaeth weithredol ac yn gronfa fasnachu nad yw’n hawlio arian a bleidleisir gan y Senedd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i sicrhau bod ei hincwm o’i ffïoedd yn talu am ei holl wariant. Mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys yr Adran Cofrestru Teitl, sy’n delio â’i phrif fusnes, a’r Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amgylcheddol sy’n llawer llai.

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol ac Arglwydd Ganghellor yw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gofrestrfa Tir. Dyma adroddiad  ffurfiol y Prif Gofrestrydd Tir i'r Gweinidog am berfformiad y Gofrestrfa Tir yn erbyn pob un o’r amcanion a’r targedau perfformio allweddol a osodwyd gan y Gweinidog ar gyfer 2005/6.

Y Prif Gofrestrydd Tir yw Pennaeth Adran, Swyddog Cyfrifo llawn a Phrif Weithredwr yr asiantaeth weithredol. Mae’n ddeiliad swydd statudol ac yn gyfrifol am weinyddu holl fusnes cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr. Mae’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol ac Arglwydd Ganghellor.

Mae’r Gofrestrfa Tir yn gweithredu trwy 24 swyddfa ledled Cymru a Lloegr, Prif Swyddfa yn Llundain a swyddfeydd yn Plymouth sy’n gartref i’r Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol a’n Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth.

Mae’r Gofrestrfa Tir, sy’n cynnwys dros 20 miliwn o deitlau, wedi bod yn agored i’r cyhoedd ers Rhagfyr 1990.

Uchafbwyntiau’r flwyddyn

  • Cyflawni’r targedau perfformiad allweddol
  • Cyflawni targed e-wasanaethau’r Prif Weinidog ar gyfer 2005
  • Mwy na 20 miliwn o deitlau ar y Gofrestr Tir bellach
  • Cronfa ddata’r Gofrestrfa Tir yn cael ei chydnabod fel y gronfa ddata prosesu trafodion ar-lein fwyaf yn y byd
  • Cyflwyno rheolau newydd i wneud prydlesi’n fwy syml
  • Y Gofrestr Tir Ar-lein yn ennill gwobr bwysig am wasanaeth ar y we
  • Swyddfeydd yn cadw achrediad ISO 14001
  • Mwy na 5 y cant yn cael ei ychwanegu at arwynebedd tir rydd-ddaliol Cymru a Lloegr sydd wedi'i gofrestru.

Brif Ddewislen

Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth

Ein holl fusnes

Perfformiad yn erbyn ein targedau perfformiad allweddol