Yr adeilad Systemau Gwybodaeth newydd Agorodd Tywysoges Frenhinol EM ein hadeilad Systemau Gwybodaeth newydd, Seaton Court, yn swyddogol ar 3 Mai 2005. Mae’r adeilad newydd yn darparu cyfleuster diogel a modern i ni. Mae cynllun adeilad Seaton Court wedi’i ddyfarnu’n ‘rhagorol’ dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladau (BREEM). Caiff BREEM ei gydnabod fel y meincnod arfer da ar gyfer cynllunio a rheoli amgylcheddol a chafodd yr adeilad 10 allan o 10 yn ei Fynegai Perfformiad Amgylcheddol. |