 |
Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006
|
 |
Pwyllgor Rheolau Ad-drefnwyd Pwyllgor Rheolau Cofrestru Tir o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i ddarparu cyngor a chymorth i’r Arglwydd Ganghellor wrth wneud rheolau newydd neu ddiwygiedig o dan y Ddeddf. Mae barnwr o’r Uchel Lys yn cadeirio’r pwyllgor ac mae ei aelodau’n cynnwys y Prif Gofrestrydd Tir, cynrychiolwyr o’r proffesiwn cyfreithiol a syrfewyr ynghyd â pherson a benodir ar sail ei brofiad o faterion defnyddwyr.
Yn ystod y flwyddyn, cyfarfu’r Pwyllgor ddwywaith i ystyried yr hyn sydd bellach y Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005. Mae’r rhain yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyflwyno prydlesi cymalau penodedig a gwneud newidiadau i adlewyrchu dyfodiad i rym Deddf Partneriaeth Sifil 2004. |
 |
|
 |
|