 |
Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006
|
 |
Y Gofrestr Tir Ar-lein Mae'n hymgyrch ar gyfer y Gofrestr Tir Ar-lein yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Buom yn Sioe ‘Good Homes’ y BBC ym mis Mai 2005 i hyrwyddo’r Gofrestr Tir Ar-lein i’r cyhoedd. Roedd y galw’n llawer mwy na’r disgwyl a chynhaliwyd cymhorthfa ar y stondin. Roedd gan bobl ddiddordeb arbennig yn y wybodaeth sydd gennym a’r eglurder y mae’r wybodaeth hon yn ei chynnig wrth brynu tŷ. Ymwelwyd hefyd â’r Sioe Frenhinol yn Stoneleigh Park, Swydd Warwig a’r Great Yorkshire Show ger Harrogate.
Mae’r ymgyrch farchnata yn cynnwys hysbysebu ar-lein ar wefannau eiddo perthnasol fel upmystreet.com a primelocation.com. Mae hysbysebu ar-lein a gwell gwasanaeth drwy beiriannau chwilio wedi arwain at gynnydd o 15 y cant mewn trafodion ar-lein.
Enillodd y Gofrestr Tir Ar-lein wobr ar y we yn 2005 gan y Web Marketing Association am gyflawniad rhagorol ym maes datblygu gwefan. |
 |
|
 |
|