Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006

Hygyrchedd a hyrwyddo dewis

Mae ein prif gwsmeriaid yn tueddu i gynnwys gweithwyr o fyd y gyfraith neu sefydliadau ariannol, er ein bod yn derbyn ceisiadau ac ymholiadau gan amrywiaeth o gyrff eraill ac yn uniongyrchol gan y cyhoedd. Gall cwsmeriaid gysylltu â ni wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ffacs, e-bost a thrwy’r post. Gall cwsmeriaid proffesiynol sydd â chyfrifon credyd gael mynediad i’n gwasanaethau’n electronig trwy’r  Gofrestrfa Tir Uniongyrchol a thrwy’r Gwasanaethau Ffôn. Mae Gwasanaethau Ffôn Cymru yn arbenigo mewn enwau lleoedd Cymraeg ac yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.


Gall y cyhoedd gael gafael ar ein gwybodaeth yn electronig trwy’r Gofrestr Tir Ar-lein a gweld/argraffu copïau o gofnodion ar y gofrestr (gan dalu â cherdyn credyd/debyd). Yn 2004/5, ehangwyd ein gwasanaeth fel bod modd cael gafael ar unrhyw weithredoedd y cyfeirir atynt ar y gofrestr yn ogystal â’r gofrestr ei hun a chynlluniau teitl.

Mae staff yn ein canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid yn cael eu hyfforddi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon i gwsmeriaid anabl a chwsmeriaid ag anghenion penodol.

  • Mae hygyrchedd Canolfannau Gwybodaeth Cwsmeriaid yn cael ei archwilio (ac mae ganddynt fynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn).
  • Gall rhai aelodau o staff ddarparu Iaith Arwyddion Prydain.
  • Rydym yn darparu gwasanaeth ffôn testun ar rif rhadffôn ar gyfer cwsmeriaid byddar neu drwm eu clyw, ac yn croesawu galwadau trwy Typetalk.
  • Rydym yn darparu dogfennau/canllawiau mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys Braille, print bras a thâp sain.
  • Mae gennym gronfa ddata o staff sy’n gallu siarad ieithoedd eraill.
  • Gallwn ddarparu taflenni gwybodaeth ar ein gweithdrefn gwynion; am y wybodaeth sydd gennym; a sut i’w chael mewn Tsieinëeg, Gwjarati, Hindi, Pwnjabi ac Wrdw ac mewn ieithoedd eraill ar gais.

Prif Ddewislen


Rhagair: Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Cenhadaeth, gweledigaeth, strategaeth

Ein holl fusnes

Perfformiad yn erbyn targedau perfformiad allweddol

Gwasanaeth Cwsmeriaid a Gweithrediadau

Gwaith i mewn ac allan

Cyflymder

Cywirdeb

Boddhad cwmseriaid

Nod Siarter

Gwasanaeth yn Gyntaf a safonau gwasanaeth

Gwybodaeth agored a llawn

Ymgynghori a chynnwys pobl

Hygyrchedd a hyrwyddo dewis

Gwasanaeth Cymraeg

Unioni Pethau

Adolygydd Cwynion Annibynnol

Indemniad