Adolygydd Cwynion AnnibynnolMae’r Adolygydd Cwynion Annibynnol (ICR), Mrs Jodi Berg, yn cynnal ymchwiliadau diduedd i gwynion cwsmeriaid sy’n anfodlon â’r gwasanaeth a gawsant ac sy’n anfodlon â’n gweithdrefn gwynion fewnol. Mae nifer y cyfeiriadau a arweiniodd at ymchwiliadau ffurfiol gan yr ICR ar lefel isel ac o’r ychydig gwynion hynny a arweiniodd at ymchwiliad, dim ond llond llaw sydd wedi’u cynnal. Mae ICREST, sef tîm Gwerthuso ac Astudio’r Gofrestrfa Tir a sefydlwyd yn arbennig i ystyried argymhellion gan yr ICR, yn ystyried ac yn gweithredu ar y feirniadaeth adeiladol y maent yn eu cynnwys.
Gwnaed dau ymateb ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Y cyntaf oedd ymateb ffurfiol byr y Gofrestrfa Tir i adroddiad blynyddol yr ICR, yn cymeradwyo’r adroddiad hwnnw. Roedd yr ail yn ymateb i Bapur Gwyn yr Adran Materion Cyfansoddiadol, Transforming Public Services: Complaints, Redress and Tribunals. Roedd yr ymateb hwn, a oedd yn rhoi cefnogaeth gref i wasanaeth yr ICR, yn cynnwys disgrifiad llawn a hanes sut y defnyddir y gwasanaeth ICR yn y Gofrestrfa Tir, ac fe’i trafodwyd yn fanwl gyda’r ICR cyn ei gwblhau. Gallwch gael adroddiad blynyddol yr Adolygydd Cwynion Annibynnol gan ei swyddfa:
New Premiere House 150 Southampton Row Llundain WC1B 5AL Ffôn 020 7278 6251 |