 |
Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006
|
 |
Gwasanaeth yn Gyntaf a safonau gwasanaeth
Mae datganiad y Gofrestrfa Tir o safonau gwasanaeth yn ymgorffori’r naw egwyddor darparu gwasanaethau cyhoeddus a chwe safon gwasanaeth y llywodraeth ganolog sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad polisi Gwasanaeth yn Gyntaf – y Rhaglen Siarter newydd. - Caiff ein targedau a’n cyflawniadau eu cyhoeddi bob blwyddyn yn ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon, a’u harddangos yn ein canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid.
- Mae pwyllgorau cynghori ymarferwyr yn cael eu hysbysu’n rheolaidd.
- Caiff targedau cyflymder gwasanaeth eu rhyddhau’n chwarterol i sefydliadau a’r wasg sy’n ymwneud â byd y gyfraith.
- Caiff ein perfformiad yn erbyn targedau ei gyhoeddi ar www.cofrestrfatir.gov.uk ac yn Landnet.
- Mae ein Cynllun Strategol 10 Mlynedd a’n cynlluniau busnes blynyddol yn cynnwys manylion llawn ein targedau perfformiad allweddol. Caiff cynlluniau busnes eu diweddaru’n rheolaidd gyda manylion ein perfformiad cyfredol yn erbyn y targedau hyn.
|
 |
|
 |
|