 |
Adolygiad Blynyddol Ar-lein 2005/2006
|
 |
Ein nod yw darparu gwasanaeth o'r un safon uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg. - Caiff pob templed cofrestr a gynhyrchir yng Nghymru ei argraffu'n ddwyieithog.
- Mae pob pennawd a gwybodaeth sylfaenol ar gofrestri teitlau yng Nghymru yn ymddangos yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Mae cofnodion unigol yn ymddangos yn iaith (Cymraeg neu Saesneg) y ddogfen wreiddiol.
- Rydym yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar y ffôn, mewn gohebiaeth ysgrifenedig ac yn y canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid a Gwasanaethau Ffôn.
- Mae gennym staff sy'n siarad Cymraeg a, phan fo angen, cyfieithwyr allanol.
- Mae'r Gofrestrfa Tir yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn gohebu yn y Gymraeg â phobl y gwyddom sydd am ohebu yn y Gymraeg.
- Mae'r Gofrestrfa Tir yn croesawu llythyron/ ffacsys/ negeseuon ebost yn y Gymraeg ac yn ysgrifennu yn y Gymraeg at y bobl hynny sy'n dymuno gohebu yn y Gymraeg.
- Ceir fersiwn Cymraeg o'n gwefan yn www.cofrestrfatir.gov.uk
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Cydlynydd yr Iaith Gymraeg Cofrestrfa Tir Tŷ CwmTawe Ffordd y Ffenics Llansamlet Abertawe SA7 9FQ
|
 |
|
 |
|