Cefndir - Caffael Corfforaethol y Gofrestrfa Tir

Mae Caffael Corfforaethol yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisi caffael ar draws y Gofrestrfa Tir, gan ddilyn Côd Ymarfer Da ar Gaffael Swyddfa Masnach y Llywodraeth (PDF 115kb). Mae'r tîm yn gweithio yn bennaf yn Systemau Gwybodaeth (IS), Plymouth a'r Brif Swyddfa yn Llundain.

Un o'n prif gyfrifoldebau yw sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaeth effeithiol i'n cwsmeriaid mewnol a chael y gwerth gorau am arian. Rydym yn meithrin cysylltiadau proffesiynol ardderchog ac yn gweithio gyda chyflenwyr yn y dull mwyaf priodol i'r contract. Mae'r tîm yn meddu ar y sgiliau i weithio gyda phob math o gyflenwyr.

Yn ogystal â llunio'n contractau ein hunain, rydym yn defnyddio contractau fframwaith wedi'u llunio gan adrannau eraill y llywodraeth sydd wedi mynd trwy'r broses gystadlu a thendro eisoes. Rydym hefyd yn defnyddio fframweithiau Buying Solutions.  Buying Solutions yw'r partner caffael cenedlaethol ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus y DU ac mae'n rhan o'r Grŵp Effeithlonrwydd a Diwygio o fewn Swyddfa'r Cabinet.

Yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth i well tryloywder, ceir manylion gwahoddiadau i dendro a chontractau a roddwyd ar gyfer caffael dros £10,000 oddi ar fis Ionawr 2011 yn ardal 'Contracts Finder' o wefan www.businesslink.gov.uk.  Mae Contracts Finder yn wasanaeth di-dâl i fusnesau, prynwyr y llywodraeth a'r cyhoedd ac mae'n cynnig:

"Mae'n amser cyffrous i Gaffael Corfforaethol wrth i'r Gofrestrfa Tir ddechrau rhaglen o newid sylweddol.

"Rhan o'r newid hwn fu cydnabod caffael fel swyddogaeth strategol sy'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael gwerth gorau o'n holl wariant allanol. Mae hyn yn unol â barn gyfredol y Trysorlys yn Transforming Government Procurement, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2007."
Tim Leaver, Prif Swyddog Caffael