Mae Caffael Corfforaethol yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisi caffael ar draws y Gofrestrfa Tir. Mae’r tîm yn gweithio yn bennaf yn Seaton Court, Plymouth a’r Brif Swyddfa yn Llundain. Un o’n prif gyfrifoldebau yw sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaeth effeithiol i’n cwsmeriaid mewnol a chael y gwerth gorau am arian. Rydym yn meithrin cysylltiadau proffesiynol ardderchog ac yn gweithio gyda chyflenwyr yn y dull mwyaf priodol i’r contract. Mae’r tîm yn meddu ar y sgiliau i weithio gyda phob math o gyflenwyr. Rydym yn dilyn Côd Ymarfer Da ar gyfer Cwsmeriaid a Chyflenwyr Swyddfa Fasnach y Llywodraeth (PDF 114kb). Yn ogystal â llunio’n contractau ein hunain, rydym yn defnyddio contractau fframwaith wedi’u llunio gan adrannau eraill y llywodraeth sydd wedi mynd trwy’r broses gystadlu a thendro eisoes. Rydym hefyd yn defnyddio fframweithiau Catalist OGC Buying Solutions. “Mae’n amser cyffrous i Gaffael Corfforaethol wrth i’r Gofrestrfa Tir ddechrau rhaglen o newid sylweddol. “Rhan o’r newid hwn fu cydnabod caffael fel swyddogaeth strategol sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael gwerth gorau o’n holl wariant allanol. Mae hyn yn unol â barn gyfredol y Trysorlys yn Transforming Government Procurement, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2007." Tim Leaver, Prif Swyddog Caffael |