www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Caffael corfforaethol Amdanom ni Contents Previous Next

    Amdanom ni (proffîl prynwr)

    Un o grwpiau Prif Swyddfa’r Gofrestrfa Tir yw Caffael Corfforaethol. Mae’n gyfrifol am greu polisi caffael, caffaeliadau pwysig a darparu arweiniad a hyfforddiant i holl staff y Gofrestrfa Tir sy’n ymwneud â’r broses gaffael.

    Ein cenhadaeth yw darparu gwasanaethau caffael proffesiynol i’r Gofrestrfa Tir, cynnal ymarferion caffael pwysig a rhoi cyngor ac arweiniad i brynwyr lleol. Rydym yn gwneud hyn trwy gryfhau’n cysylltiadau gyda chwsmeriaid mewnol a chyflenwyr strategol, i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau yn ein holl wariant.

    Ein nod yw:

    • rhoi arweiniad ymarferol i holl staff y Gofrestrfa Tir sy’n ymwneud â chaffael
    • sicrhau bod polisi’r Llywodraeth ac ymarfer da yn rhan hanfodol o bolisi’r Gofrestrfa Tir i’w gymeradwyo gan y Bwrdd
    • rhoi sicrwydd i’r swyddog cyfrifyddu a’r bwrdd o ran holl weithgareddau caffael yn y Gofrestrfa Tir
    • creu a chynnal system lywodraethu i sicrhau bod caffael yn cael ei wneud mewn ffordd gydlynol a chyson a’n bod yn defnyddio adnoddau i gyrraedd y nodau a amlinellir yn y cynlluniau busnes
    • cynnal/goruchwylio cysylltiadau strategol o werth uchel
    • meithrin a chynnal cysylltiadau da gyda chyflenwyr a phartneriaid busnes allweddol
    • cyrraedd y safonau proffesiynol uchaf wrth reoli contractau.

    Ein hamcan yw darparu amrywiaeth o wasanaethau caffael cost-effeithiol i’n cwsmeriaid yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

    • Gwerth am arian. Defnyddir cystadleuaeth lle bynnag y bo modd, trwy fframweithiau llywodraeth y DU a Chofnod Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd lle bo’n briodol. Yn achos nwyddau a gwasanaethau sy’n werth llai na £100,000 gallwn ddefnyddio’r wefan www.supply2.gov.uk, gwasanaeth wedi'i gefnogi gan y llywodraeth a ddyluniwyd er mwyn i gyflenwyr gael gafael yn hawdd ar fanylion cysylltu a chyfleoedd contract. Dyma lle mae llawer o gyfleodd busnes gwerth isel y Gofrestrfa Tir yn cael eu hysbysebu am y tro cyntaf
    • Cyflenwi amserol. Cyflenwir gwasanaethau ar yr amser a gytunwyd gyda’n cwsmeriaid ac yn unol â’r blaenoriaethau a roddir i’r amcanion strategol gan fyrddau’r Gofrestrfa Tir.
    • Cynllunio galluoedd. Mae’r holl staff yn cael eu hyfforddi yn unol â pholisi datblygiad staff Caffael Corfforaethol, a pholisïau eraill y Gofrestrfa Tir. Byddwn yn datblygu galluoedd ein staff i sicrhau bod ganddynt y sgiliau ac adnoddau sydd eu hangen arnynt.
    • Gwasanaethau dibynadwy. Byddwn yn hwyluso cyfathrebu a chysylltiadau gweithio da gyda’n cyflenwyr a phartneriaid presennol a photensial er mwyn rheoli a datblygu’r gadwyn gyflenwi. Bydd holl weithgareddau allweddol yn cael eu cofnodi.