Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Caffael corfforaethol Categorïau prif wariant Contents Previous Next

Prif wariant y Gofrestrfa Tir

Gellir rhannu prif wariant y Gofrestrfa Tir yn dri phrif gategori:

Systemau Gwybodaeth (SG)
Gyda’r gronfa ddata o drafodion fwyaf yn y byd ac isadeiledd TG sy’n darparu gwasanaeth ar ddesgiau mwy nag 8,000 o staff mewn 26 o swyddfeydd, mae arian sylweddol yn cael ei wario ar ddatblygiad a gwasanaethau cefnogaeth SG.

Cyfleusterau
Mae ystod lawn o gontractau yn gwasanaethu’r rhwydwaith o swyddfeydd a darparu nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol i’r staff. Er ein bod yn defnyddio nifer o fframweithiau’r llywodraeth, mae eraill yn cael eu cyd-drafod gan y tîm caffael. Darperir polisi, gweithdrefnau, arweiniad a chefnogaeth hefyd i staff sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig am gaffael.

Prosiectau
Mae gan y Gofrestrfa Tir bortffolio sylweddol o brosiectau i gefnogi’r busnes beunyddiol a’n rhaglen o newid. Y mwyaf arwyddocaol o’r rhain yw e-drawsgludo. Mae’r prosiectau hyn yn arwain at ymarferion caffael diddorol ac uchelgeisiol.