www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Caffael corfforaethol GPC Contents Previous Next

    Cerdyn Caffael y Llywodraeth

    Cyflwynwyd Cerdyn Caffael y Llywodraeth (GPC) yn y Gofrestrfa Tir ym 1999. Cerdyn talu yw sy’n caniatáu i ddeiliaid wneud archebion a thalu amdanynt heb fynd trwy’r prosesau archebu a phrynu manwl traddodiadol. Oherwydd nad yw’n gerdyn credyd, mae’n rhaid ad-dalu’r gweddill bob mis.

    Y GPC yw dull o ddewis y Gofrestrfa Tir i dalu am drafodion o werth isel priodol, lle bo’r costau prosesu yn anghymesur â gwerth y nwyddau neu wasanaethau yn aml. Lle nad oes modd ei ddefnyddio, caiff archebion prynu eu prosesu trwy’n System Gwybodaeth Busnes.

    Yr Adran Cyfrifon Taladwy yn y Grŵp Cyllid sy’n talu a chysoni holl wariant GPC yn unol â rheoliadau cyfrifyddu’r llywodraeth. Mae enw deiliad y cerdyn wedi’i argraffu ar y GPC ond mae’r cyfrif yn enw’r Gofrestrfa Tir.

    Mae defnyddio GPC am daliadau gwerth isel yn strategaeth caffael a argymhellir gan y Trysorlys, Swyddfa Masnach y Llywodraeth a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae’n rhan hanfodol o gyflawni dangosydd perfformiad allweddol y Gofrestrfa Tir. Mae defnyddio’r GPC yn symleiddio’r broses brynu yn unol â pholisïau eraill y Gofrestrfa Tir, gan arwain at brosesu mwy effeithiol a gwell rheolaeth.