Gwasanaethau ffôn ar gyfer defnyddwyr busnes
Gwasanaeth busnes yw Gwasanaethau Ffôn y Gofrestrfa Tir sydd ar gael i ddeiliaid cyfrif credyd a debyd y Gofrestrfa Tir yn unig.
Nid oes modd i'r Gwasanaethau Ffôn ateb ymholiadau cyffredinol neu drosglwyddo galwadau i swyddfeydd neu adrannau eraill y Gofrestrfa Tir. Os oes gennych ymholiad cyffredinol, cysylltwch â'n cefnogaeth i gwsmeriaid.
Mae dau rif ffôn ar gael, yn dibynnu ar leoliad y cofrestriad dan sylw.
Yn achos cofrestriadau yn Lloegr, ffoniwch 0844 892 1111, dewiswch opsiwn 4.
Mae'r llinell hon ar agor rhwng 8.30am a 6pm dydd Llun i ddydd Gwener (heblaw gwyliau banc). Sylwch fod llai o staff yn gweithio ar ôl 5pm.
Yn achos cofrestriadau yng Nghymru, ffoniwch 0844 892 0308.
Mae'r llinell hon ar agor rhwng 8.30am a 6pm dydd Llun i ddydd Gwener (heblaw gwyliau banc). Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael ar y rhif hwn hefyd.
Codir y gyfradd genedlaethol am alwadau i Wasanaethau Ffôn y Gofrestrfa Tir ac mae galwadau'n cael eu recordio at ddibenion gwasanaeth cwsmeriaid a hyfforddiant.
I gael rhagor o fanylion, darllenwch y cyfarwyddyd i Wasanaethau Ffôn y Gofrestrfa Tir.