Mae gan lawer o'n cwsmeriaid busnes dîm cwsmer penodol i ateb unrhyw ymholiadau cyffredinol ac ymholiadau gwaith cais. Dylid defnyddio'r cyfeiriad ebost a'r rhif ffôn canlynol ar gyfer ymholiadau cyffredinol gan gwsmeriaid busnes heb dîm cwsmer a chan aelodau'r cyhoedd.
Gwneud ymholiad cyffredinol
Gallwch gael gafael ar ein hystod o gyfarwyddiadau am ddim, COA a ffurflenni ar y wefan.
Hefyd, gallwch anfon ebost at ein Cefnogaeth i Gwsmeriaid neu ein ffonio rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (heblaw gwyliau banc) ar 0844 892 1122. (Cost galwadau yw 3c y funud ar dariff safonol BT. Gall galwadau o dariffau, darparwyr gwasanaeth eraill a ffonau symudol gostio mwy). Mae'r Gofrestrfa Tir yn cael refeniw o'r galwadau hyn. Mae’r refeniw yn talu am gynnal y gwasanaeth, ond nid yw’r Gofrestrfa Tir yn gwneud elw ohono.
Byddwn yn ateb galwadau ffôn mewn modd cyfeillgar, a chyn gynted â phosibl.
- Anfonwch eich sylwadau, cwynion neu awgrymiadau atom drwy ein ffurflen ar-lein.
- Oes angen i chi ymweld â'r Gofrestrfa Tir yn bersonol?