Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

dyn gyda phenset

Ein gwasanaeth

Rydym yn ymroddedig i wasanaeth cwsmeriaid. Rydym yn gosod safonau y gall ein cwsmeriaid eu disgwyl oddi wrthym ac yn cyhoeddi'r rhain yn ein Datganiad o Safonau Gwasanaeth. Mae gan bob un o'n swyddfeydd lleol Reolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid sydd yno i sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth da, i ystyried eich sylwadau ac i sicrhau ein bod yn unioni unrhyw wallau cyn gynted â phosibl.

Gall y Gofrestrfa Tir ddarparu amrywiaeth o gyfleusterau ychwanegol i gwsmeriaid a chanddynt anghenion penodol. Ceir manylion pellach trwy ddilyn y cyswllt ar y chwith, neu  trwy glicio yma.

Dilynwch y cysylltau ar ochr chwith y dudalen hon i weld y ffordd fwyaf cyfleus i chi gysylltu â ni - trwy ffonio, ysgrifennu neu trwy ymweld ag un o'n swyddfeydd.

Fel arall, defnyddiwch y cysylltau i'n ffurflenni ar-lein i anfon eich sylwadau trwy'r wefan.

Monthly performance of customer service

Dibynadwyaeth y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Yn ystod mis Mehefin 2008, roedd y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ar gael am 99.95 y cant o'r oriau agor a hysbysebwyd. Nid oedd unrhyw amser segur.

Cywirdeb a chyflymdra gwasanaeth cofrestriadau

BHY Mai 2008(%)

Targed (%)

Cywirdeb
Canran yr holl gofrestriadau
a broseswyd heb unrhyw gamgymeriad

98.9

98.5

Cyflymdra gwasanaeth
Canran yr holl gofrestriadau a broseswyd o fewn 18 diwrnod gwaith

90.0

88.9

Canran y ceisiadau am gopi swyddogol a chwiliadau swyddogol a broseswyd o fewn dau ddiwrnod gwaith.

98.0

98.0

cysylltu â ni

Ffurflen ymholiadau:  Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ynghylch y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, llenwch y ffurflen hon.

Ffurflen Gwyno: Os oes gennych unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu gwynion, llenwch y ffurflen hon.

Adborth am y wefan: Oedd y wefan yn hawdd i'w defnyddio?  Oes unrhyw wybodaeth arall yr hoffech i ni ei darparu ar-lein?  Defnyddiwch y ffurflen i roi gwybod i ni.

Monthly performance of customer service

Newidadau o ganlyniad i'ch adborth

Cyhoeddiadau gwasanaeth cwsmeriaid

Crynodeb o gwynion a chanmoliaeth

Defnyddio'r ffôn ar gyfer ymholiadau syml

Targedau perfformiad

Crynodeb o arolwg cwsmeriaid 2007