Newidiadau o ganlyniad i'ch adborth
Rydym yn defnyddio awgrymiadau, adborth a chwynion cwsmeriaid i ddatblygu ein harferion da a gwella unrhyw feysydd a all fod wedi achosi anfodlonrwydd.
Dyma rai enghreifftiau o gwynion ac adborth o'r fath:
- Rydym wedi derbyn cwynion bod ymholiadau electronig a anfonwyd gan y Gofrestrfa Tir heb eu derbyn. Rydym wedi atgoffa staff o'r angen i fod y ofalus iawn wrth deipio cyfeiriadau e-bost. Rydym hefyd yn adolygu'n gweithdrefnau a systemau.
- Yn dilyn cwyn am eglurdeb y wybodeth yn ein Cyfarwyddyd Ymarfer 51 - Ardaloedd a Wasanaethir gan y Gofrestrfa Tir, byddwn yn newid argraffiad nesaf y cyfarwyddyd.
- Mewn ymateb i gwynion bod y Gofrestrfa Tir yn anfon ymholiadau diangen, rydym wedi tynnu sylw staff at hyn ac wedi newid ein systemau i helpu lleihau'r math o gamgymeriad hwn.
Rydym yn gwerthfawrogi y gall camgymeriadau godi gwrychyn ond mae pethau yn mynd o chwith o bryd i'w gilydd.
Rydym wedi cyhoeddi cyfarwyddyd o'r enw Unioni pethau sy'n amlinellu beth ddylech chi ei wneud os ydych o'r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad neu os nad ydych yn fodlon â'n gwasanaeth.
I weld y fersiwn ddiweddaraf o'r cyfarwyddyd hwn, gweler ein tudalen Gwasanaeth cwsmer.
|
 |