Arolwg Cwsmeriaid 2007 - Crynodeb
Mae’r Gofrestrfa Tir yn parhau i roi pwyslais mawr ar gynyddu lefel boddhad cwsmeriaid â’n gwasanaethau. Yn dilyn adolygiad, cyflwynwyd math newydd o arolwg cwsmeriaid y llynedd a gynhaliwyd trwy gyfweliad ffôn yn hytrach na’r holiadur papur neu electronig ‘traddodiadol’. Cafodd mwy na 1,000 o gwsmeriaid eu holi ar gyfer arolwg 2007 a dywedodd 97 y cant fod y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gennym yn ardderchog, da iawn neu’n dda. Roedd gan gwsmeriaid farn uchel o’n cywirdeb a chyflymdra gwasanaeth a chanmolwyd ein staff am eu parodrwydd i helpu, cwrteisi, gwybodaeth a gallu.
Roedd mwy nag 80 y cant yn ‘cytuno’n gryf’ bod “y Gofrestrfa Tir yn wasanaeth cyhoeddus proffesiynol, effeithlon a chwrtais.” Roedd 91 y cant o’r farn bod ein gwasanaeth cwsmeriaid yn ardderchog, da iawn neu’n dda. “Mae adborth ein cwsmeriaid yn bwysig i ni ac rydym yn falch iawn o dderbyn lefelau o foddhad mor uchel,” dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gofrestrfa Tir Denise Reynolds. “Credwn eu bod yn adlewyrchu’n hymrwymiad parhaus i wasanaeth cwsmeriaid. “Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon – tynnodd yr arolwg sylw at feysydd penodol lle mae angen gwella – ac rydym yn gwybod bod rhaid i ni wella’n gwasanaeth i gwsmeriaid yn barhaus er mwyn iddynt aros yn fodlon iawn â’n gwasanaethau.” |