Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Arolwg Cwsmeriaid 2007 - Crynodeb


Mae’r Gofrestrfa Tir yn parhau i roi pwyslais mawr ar gynyddu lefel boddhad cwsmeriaid â’n gwasanaethau.

Yn dilyn adolygiad, cyflwynwyd math newydd o arolwg cwsmeriaid y llynedd a gynhaliwyd trwy gyfweliad ffôn yn hytrach na’r holiadur papur neu electronig ‘traddodiadol’.

Cafodd mwy na 1,000 o gwsmeriaid eu holi ar gyfer arolwg 2007 a dywedodd 97 y cant fod y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gennym yn ardderchog, da iawn neu’n dda.

Roedd gan gwsmeriaid farn uchel o’n cywirdeb a chyflymdra gwasanaeth a chanmolwyd ein staff am eu parodrwydd i helpu, cwrteisi, gwybodaeth a gallu.


Roedd mwy nag 80 y cant yn ‘cytuno’n gryf’ bod “y Gofrestrfa Tir yn wasanaeth cyhoeddus proffesiynol, effeithlon a chwrtais.”

Roedd 91 y cant o’r farn bod ein gwasanaeth cwsmeriaid yn ardderchog, da iawn neu’n dda.

“Mae adborth ein cwsmeriaid yn bwysig i ni ac rydym yn falch iawn o dderbyn lefelau o foddhad mor uchel,” dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gofrestrfa Tir Denise Reynolds. “Credwn eu bod yn adlewyrchu’n hymrwymiad parhaus i wasanaeth cwsmeriaid.

“Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon – tynnodd yr arolwg sylw at feysydd penodol lle mae angen gwella – ac rydym yn gwybod bod rhaid i ni wella’n gwasanaeth i gwsmeriaid yn barhaus er mwyn iddynt aros yn fodlon iawn â’n gwasanaethau.”