www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Polisi hawlfraint Mathau o drwyddedu Contents Previous Next

    Mathau o drwyddedu

    Caniatâd i ailddefnyddio heb dâl

    Dan amgylchiadau cyfyngedig byddwn yn caniatáu defnyddio data penodol yn ddi-dâl. Gweler ein polisi cyhoeddedig ar ailddefnyddio.

    Ailddefnyddio gwybodaeth at ddibenion masnachol

    Yn amodol ar dâl a thelerau ac amodau eraill, rydym yn rhoi i’r rhan fwyaf o bobl drwydded nad yw’n unigryw ac nad oes hawl ei throsglwyddo i ailddefnyddio ein gwybodaeth at ddibenion mewnol. Mae dewis mwy cyfyngedig o’n gwybodaeth ar gael ar gyfer defnydd busnes masnachol ac mae gwahanol delerau ac amodau yn gymwys. Lle bo gan yr Arolwg Ordnans hawliau eiddo deallusol yn ein data, ar hyn o bryd gallwn ganiatáu defnydd busnes mewnol yn unig o’r data hynny oherwydd ein trefniadau trwyddedu gyda’r Arolwg Ordnans.

    Eithriadau

    Gallwn wrthod ceisiadau rhai pobl:

    • os ydynt yn y gorffennol wedi copïo eiddo deallusol sy’n berchen i neu a reolir gan y Goron heb ganiatâd ac nad oedd hyn wedi ei gytuno gyda ni (neu gyda rhan arall o Lywodraeth y DU); neu
    • os nad oes ganddynt ddigon o deilyngdod credyd (ar ôl inni wirio gydag asiantaeth ymholiadau credyd) i dalu unrhyw ffïoedd trwydded ac nad ydynt yn fodlon cynnig dull arall o dalu (er enghraifft, gwarant banc, taliad o flaen llaw, ac yn y blaen).

    Gallwn wrthod caniatâd ichi atgynhyrchu deunydd:

    • sy’n berthnasol i unigolyn a enwir neu y gellir ei adnabod os nad ydynt wedi rhoi caniatâd iddo gael ei ailddefnyddio (er enghraifft lle nad yw’r Ddeddf Diogelu Data yn caniatáu hyn); neu
    • sy’n cael ei warchod gan hawliau sefydliad arall ac nid yw’r sefydliad hwnnw wedi rhoi caniatâd.