www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Polisi hawlfraint Ailddefnyddio gwybodaeth Contents Previous Next

    Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005

    Daeth Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (RPSI) i rym ar 1 Gorffennaf 2005 mewn ymateb i Gyfarwyddeb Ewropeaidd.

    Mae’r rheoliadau i’w gweld ar wefan OPSI.

    Mae’r rheoliadau yn caniatáu i gyrff y sector cyhoeddus, fel y Gofrestrfa Tir, ddarparu eu gwybodaeth i’w hailddefnyddio gan unrhyw un sy’n gwneud cais yn unol ag adran 6 y rheoliadau hyn. Fodd bynnag, nid yw’n orfodol i gyrff y sector cyhoeddus ganiatáu ailddefnydd.

    Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd yn ymwneud â hawl y cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth. Mae’r Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus yn darparu fframwaith i roi caniatâd i unigolion neu gyrff cyhoeddus neu breifat ailddefnyddio’r wybodaeth honno.

    I gael rhagor o wybodaeth am bolisi’r Gofrestrfa Tir ar Ryddid Gwybodaeth ewch i’r adran eich hawliau gwybodaeth ar y wefan hon.

    Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Gofrestrfa Tir wedi cael ei lunio er mwyn rhoi gwybod ichi pa wybodaeth rydym yn ei darparu neu’n bwriadu ei darparu fel rhan o’n busnes. Fe’i lluniwyd hefyd i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a’i chael mor gyflym ag y bo modd.