Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Polisi hawlfraint Beth yw hawlfraint? Contents Previous Next

Beth yw hawlfraint?

Hawlfraint y Goron

Gwarchodir yr holl waith sy’n cael ei greu gan y Gofrestrfa Tir gan hawlfraint y Goron a/neu hawliau cronfa ddata yn y DU a fe’i gwarchodir yn fyd‑eang hefyd trwy gytuniadau rhyngwladol. Rydym yn rheoli’r hawlfraint i’n gwaith trwy awdurdod dirprwyedig gan Reolwr Llyfrfa ei Mawrhydi (sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI)). Ni allwch atgynhyrchu, addasu neu gyfieithu ein deunydd mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys yn electronig, trwy lungopïo neu recordio) heb ein caniatâd.

Deunydd sefydliadau eraill

Mae peth o’r deunydd a gyhoeddir gennym yn cynnwys deunydd hawlfraint sy’n eiddo partïon eraill, er enghraifft yr Arolwg Ordnans. Gwarchodir deunydd o’r fath gan hawlfraint y Goron yn ogystal â hawlfraint y sefydliadau hynny. Os yw hyn yn wir, fel arfer bydd deunydd y Gofrestrfa Tir yn ei ddweud yn glir. I ailddefnyddio’r deunydd hwn bydd rhaid ichi gael caniatâd y sefydliad arall yn ogystal â chaniatâd y Gofrestrfa Tir.

Cyfnod gwarchodaeth

Mae hawlfraint y Goron yn gymwys i bopeth rydym yn ei greu am 125 o flynyddoedd o ddiwedd blwyddyn galendr ei greu. Os yw’r deunydd yn cael ei gyhoeddi’n fasnachol o fewn 75 o flynyddoedd o’i greu, fe’i gwarchodir am 50 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn y cafodd ei gyhoeddi’n fasnachol. Os nad yw’n deunydd yn cael ei warchod bellach nid oes rhaid cael ein caniatâd cyn copïo’r deunydd. Fodd bynnag, ni allwch atgynhyrchu’n brand, mae’n rhaid ichi roi cydnabyddiaeth inni o hyd ac ni allwch honni bod y deunydd yn dod o’r Gofrestrfa Tir. Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr.