
Mae e-drawsgludo yn tarddu o adroddiad ar y cyd rhwng Comisiwn y Gyfraith a'r Gofrestrfa Tir: “Land Registration for the twenty-first century, a conveyancing revolution”, a gyhoeddwyd yn 2001. Nododd yr adroddiad weledigaeth lle y gallai: Defnyddwyr y rhwydwaith e-drawsgludo fasnachu â'i gilydd yn ddiogel; Defnyddwyr rannu gwybodaeth yn electronig; Gwallau ac anghysondebau gael eu nodi a'u hunioni ar y cam cynharaf posibl; Gweithredoedd a dogfennau electronig gael eu llofnodi â llofnodion electronig; Cofrestriad ddigwydd yn fwy cyflym nag yn y byd papur, gan ddiogelu buddion tirfeddianwyr ar gam cynharach.
Yn y blynyddoedd ers cyhoeddi'r adroddiad gwnaed datblygiadau pwysig mewn llawer o feysydd y diwydiant eiddo er mwyn cyflawni'r weledigaeth. Mae'r Gofrestrfa Tir wedi chwarae ei rôl drwy dreialu syniadau arloesol fel llofnodion electronig yn 2005 a'r Gadwyn Matrics, dwy flynedd yn ddiweddarach. Yn unol â'i rôl draddodiadol fel awdurdod cofrestru, mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyflwyno gwasanaethau cofrestru electronig newydd hefyd ar gyfer ystod eang o'i gwsmeriaid. Mae'r manteision yn amlwg – llai o wallau, gwaith prosesu cyflymach rhatach ac mae cwsmeriaid bellach yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau newydd. Darllenwch fwy yn yr adran 'Paratoi eich hun ar gyfer e-wasanaethau'. Mae'r Gofrestrfa Tir yn bwriadu parhau i wella'r ystod bresennol o e-wasanaethau a chyflwyno gwasanaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf a chyhoeddir rhagor o fanylion wrth i'r gwasanaethau fynd yn fyw. Darllenwch: Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Medi 2009 |