Rhagor am e-drawsgludo:
Hanes byr
Mae syniadau am ailwampio'r broses drawsgludo yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn datblygu dros sawl blwyddyn. Ym 1998, amlinellwyd cynigion yn yr adroddiad ar y cyd gan Gomisiwn y Gyfraith a'r Gofrestrfa Tir o'r enw Land Registration for the Twenty First Century (Law Com 254). Yn sgil hyn penodwyd y Gofrestrfa Tir fel yr adran o’r llywodraeth i arwain y gwaith o gyflwyno e-drawsgludo.
Roedd Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys y ddeddfwriaeth i wneud gwasanaethau e-drawsgludo yn bosibl. Bydd angen deddfwriaeth eilaidd i gefnogi gwasanaethau newydd.
Rydym wedi ymgynghori’n helaeth ers ein cynigion cyntaf yn 2002 gan roi pwyslais arbennig ar drawsgludwyr, rhoddwyr benthyg, y cyrff sy’n eu cynrychioli a phrynwyr a gwerthwyr. Mae’r adborth wedi bod yn amhrisiadwy. Ymhlith y meysydd a drafodwyd oedd:
- e-lofnodion (2005)
- trosglwyddo arian yn electronig (2005)
- deddfwriaeth eilaidd ar gyfer Cytundebau Mynediad i’r Rhwydwaith (2007)
- prototeip chwe mis o’r ‘Gadwyn Matrics’ (2007).
Ar ôl ystyried profiad newidiadau mawr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, credwn nad oes modd llwyddo trwy gyflwyno e-drawsgludo fel ‘clec fawr’. Ein hamcan yw cyflwyno gwasanaethau newydd fesul cam, ddwywaith y flwyddyn o 2008 ymlaen.
Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer o wasanaethau electronig yn y ffordd hon, fel EDs, e-gyflwyno a mynediad cyhoeddus i gofrestri teitl a chynlluniau ar-lein 20 miliwn eiddo.