www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

E-drawsgludo

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd

Mae tudalennau'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol yn rhoi mynediad rhwydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo i fwy nag 20 miliwn o gofrestri teitl, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o eiddo yng Nghymru a Lloegr. Gall cwsmeriaid gael canlyniadau ar-lein ar gyfer chwiliadau o'r cyfan â blaenoriaeth a chwiliadau pridiannau tir (unigolion preifat a chwmnïau cyfyngedig) a gwneud ceisiadau anwaredol syml ar hyn o bryd.

Mae tudalennau'r Gofrestr Tir Ar-lein yn rhoi mynediad hwylus i'r cyhoedd i fanylion mwy nag 20 miliwn eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Gallwch chwilio ar sail côd post, cyfeiriad neu drwy ddefnyddio mapiau a lluniau o'r awyr. Gallwch lwytho i lawr copïau o gofrestri teitl, cynlluniau teitl a rhai dogfennau eraill ar ffurf PDF am ffi fach.

Hysbysiad Rhyddhau Electronig (END) yw'r ffordd arferol bellach i roddwyr benthyg hysbysu'r Gofrestrfa Tir bod arwystl yn cael ei ryddhau trwy ebost. Mae hyn yn golygu nad oes angen i'r trawsgludwr aros am ryddhad papur o'r rhoddwr benthyg. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gyflwyno cais ffurfiol i ni ddileu'r arwystl o hyd. Mae rhai manteision wedi deillio o ENDs ond mae wedi arwain at broblemau hefyd. O ganlyniad, nid yw ENDs ar gael i gwsmeriaid newydd bellach a'r bwriad yw eu tynnu'n ôl yn y pendraw.

Gwasanaeth peiriant i beiriant yw Rhyddhau Electronig (EDs) sy'n galluogi rhoddwyr benthyg ar raddfa fawr i ddileu arwystlon cyfreithiol o'r gofrestr tir. Yn sgil adbrynu arwystl cyfreithiol sy'n effeithio ar dir cofrestredig, bydd cyfrifiadur y rhoddwr benthyg yn diweddaru'r Gofrestr Tir yn awtomatig. Ar ôl ei ddilysu'n electronig, caiff yr arwystl ac unrhyw gofnodion cysylltiedig eu dileu. Mae llawer o roddwyr benthyg mawr yn defnyddio'r gwasanaeth hwn a gyflwynwyd yn 2003.

Mae EDS1s yn ddull arall o ryddhau electronig sydd ar gael i roddwyr benthyg nad ydynt am ddefnyddio'r gwasanaeth EDs. Nid oes angen unrhyw gais cefnogi neu waith papur: mae'n cyfrif fel cais ynddo'i hun ac yn dileu'r arwystl o'r gofrestr yn awtomatig.

Mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyflwyno llwyfan gwefan i lansio unrhyw wasanaethau electronig presennol ac yn y dyfodol. Gelwir y llwyfan hwn yn borthol y Gofrestrfa Tir. Mae'r porthol yn rhyngwyneb cyffredin sy'n cynnig man mynediad unigol, wedi'i bersonoli i gymwysiadau a gwybodaeth sy'n seiliedig ar y we.

Mae ein e-wasanaethau presennol yn cynnwys Gwasanaethau Gwybodaeth a Gwasanaethau Rhwydwaith. Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnwys copïau swyddogol, chwiliadau ac  ymholiadau ac maent yn cynnwys chwiliadau Pridiannau Tir.  Mae Gwasanaethau  Rhwydwaith ar gyfer creu a chyflwyno dogfennau electronig. I gael rhagor o fanylion edrychwch ar nodiadau cyfarwyddyd y porthol.

Mae ein tudalennau yn y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol yn rhoi mynediad ar unwaith i weithwyr eiddo proffesiynol i dros 22 miliwn o gofrestrau teitl sy'n cwmpasu'r mwyafrif helaeth o eiddo yng Nghymru a Lloegr. Gall cwsmeriaid gael canlyniadau ar-lein i Chwiliadau Cyfan gyda Blaenoriaeth a Chwiliadau Pridiant Tir (Unigolion Preifat a Chwmnïau Cyfyngedig) ac ar hyn o bryd gallent wneud ceisiadau nad ydynt yn waredol.

Mae ein tudalennau yn Chwilio am Eiddo yn rhoi mynediad hawdd i'r cyhoedd i fanylion dros 22 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Gallwch chwilio yn ôl côd post, cyfeiriad, neu'n weledol gan ddefnyddio mapiau a ffotograffau o'r awyr, a gallwch lwytho copïau PDF o gofrestrau teitl, cynlluniau teitl a rhai dogfennau eraill i law am ffi bach.

Mae Rhyddhad Electronig (e-DS1) yn ddull amgen o ryddhad electronig sydd ar gael i roddwyr benthyg sy'n dewis peidio ag ymuno â'r gwasanaeth ED. Nid oes angen cymwysiadau na gwaith papur ategol arno: mae'n gais ynddo'i hun ac mae'n dileu'r arwystl o'r gofrestr yn awtomatig.

Mae Rhyddhadau Electronig (EDau) yn wasanaeth o beiriant i beiriant sy'n galluogi rhoddwyr benthyg mawr i ddileu arwystlon cyfreithiol o'r gofrestr tir. Ar ôl adbryniad arwystl cyfreithiol sy'n effeithio ar dir cofrestredig, mae cyfrifiadur rhoddwr benthyg yn diweddaru'r Gofrestr Tir yn awtomatig. Unwaith y caiff ei ddilysu'n electronig, caiff yr arwystl ac unrhyw gofnodion cysylltiedig eu dileu. Mae llawer o roddwyr benthyg mawr bellach yn defnyddio'r gwasanaeth hwn a gyflwynwyd yn 2003.

Hysbysiad Rhyddhau Electronig (END) - mae'r gwasanaeth hwn yn gofyn i roddwr benthyg anfon neges electronig i'r Gofrestr Tir i gadarnhau y rhyddhawyd arwystl. Mae'r gwasanaeth hwn bellach wedi'i gau i ddefnyddwyr newydd gan mai drwy'r Gofrestr Tir Uniongyrchol yn unig y mae ar gael a symudir defnyddwyr o'r gwasanaeth hwnnw i'r porthol newydd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Fodd bynnag, derbynnir ENDau yn ystod y broses mudo o hyd.

E-drawsgludo

Hanes byr

Atebion i'r ymgynghoriadau

Gwasanaethau electronig cyfredol

Rhwymedigaethau cyfreithiol defnyddwyr

Ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Paratoi eich hun