www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

E-drawsgludo

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Ar hyn o bryd rydym yn treialu gwasanaethau e-gyflwyno newydd gyda nifer bach o ddefnyddwyr trwy’r porth. Mae’r rhain yn cynnwys E-DS1 a fydd yn ddull arall o ollwng electronig ar gael i roddwyr benthyg sy’n dewis peidio ag ymuno â’r gwasanaeth EDs.

Yn ystod 2009 bydd defnyddwyr gwasanaethau gwybodaeth trwy’r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol yn cael eu symud draw i’r porth er mwyn i ni allu tynnu’r gwasanaeth yn ôl yn gynnar yn 2010 pan na fydd y platfform yr adeiladwyd arno yn cael ei gefnogi mwyach.

Byddwn yn cynnal peilot o arwystl electronig ar ffurf safonol (e-CSF) yn fuan. Hon fydd y weithred electronig gyntaf a bydd yn rhan o becyn ailforgeisio ar gyfer rhoddwyr benthyg. Yn ogystal â materion sy’n peri cofnodion yn y gofrestr, gan gynnwys ceisiadau am gyfyngiadau a chofnodion o rwymedigaethau, bydd yr arwystl electronig yn gallu cyfeirio at amodau morgais rhoddwr benthyg a chynnwys darpariaethau eraill y mae rhoddwyr benthyg yn eu cynnwys mewn gweithredoedd morgais ar hyn o bryd. Ni fydd hyn yn cynnwys y cyfleuster i ddeiliaid lofnodi’r weithred morgais hefyd.

Wrth i drawsgludwr baratoi arwystl electronig, mae’r rhoddwr benthyg yn llofnodi’r weithred yn electronig trwy’r rhyngrwyd. Mae’r llofnod electronig yn fwy diogel na llofnod papur ac yn sicrhau nad oes modd diarddel y data. Mae’n gwarantu ei ddilysrwydd hefyd.

Wrth i ni ddod yn gyfarwydd â datblygu gwasanaethau’n systemaidd, bydd pob cam dilynol o ryddhau meddalwedd yn mynd i’r afael â chyflenwi gwasanaethau a brofwyd yn ddiweddar gan ddatblygu’r gwasanaethau hynny ymhellach trwy ganiatáu mynediad trwy sianelau heblaw ein porth. Enwau’r cynlluniau y mae’n rhaid i ni eu rhoi yn eu lle er mwyn cefnogi mynediad uniongyrchol gan gwmnďau neu fynediad trwy ddarparwyr masnachol eraill yw’r Business Gateway. Caiff gwasanaethau presennol fel y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol eu datblygu ymhellach yn y modd hwn. Ein bwriad yw rhyddhau bwndel o wasanaethau rhoddwyr benthyg trwy’r Business Gateway, gan gynnwys e-arwystlon a’r gwasanaethau gwybodaeth a chwiliad sydd eu hangen ar gyfer trafodiad ailforgeisio.

Bydd y rhyddhad meddalwedd dilynol yn darparu’r set gyntaf o wasanaethau wedi’u bwndeli ar gyfer y trawsgludwr sy’n caniatáu creu a chyflwyno e-drosglwyddiad syml. Byddai’r bwndel o wasanaethau hefyd yn caniatáu cofnodi cyfyngiad cydberchennog, creu’r AP1 cysylltiedig, cysylltu’r cais ag e-arwystl lle bo’n briodol a chyflwyno’r ddychweleb Treth Tir Toll Stamp hefyd. Er mwyn rhyddhau’r gwasanaethau hyn byddai angen deddfwriaeth ychwanegol i’w cefnogi, yn enwedig gorchymyn ffi newydd.

 

E-wasanaethau

Ein e-wasanaethau cyfredol
Ein e-wasanaethau peilot
Llwyddiant e-wasanaethau porthol
Cyfarwyddyd e-lofnodion
Ein cynlluniau ar gyfer y dyfodole
Paratoi ar gyfer e-wasanaethau
Rhwymedigaethau cyfreithiol
Amserlen e-wasanaethau
Ymarferion ymgynghori a gyflawnwyd