Mae defnyddwyr ein gwasanaethau newydd yn cofrestru ar gyfer y gwasanaethau hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn dibynnu ar beth maent am wneud a phwy ydynt:
Bydd angen i holl ddefnyddwyr gwasanaethau gwybodaeth gofrestru ar gyfer amodau defnydd y porthol
Bydd angen i ddefnyddwyr gwasanaethau rhwydwaith gofrestru ar gyfer cytundeb mynediad rhwydwaith hefyd
Bydd angen i ddefnyddwyr gwasanaethau rhoddwyr benthyg i ryddhau morgeisi lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Mae dau wahanol fath o Gytundeb Mynediad Rhwydwaith:
Mae'r Llawlyfr Technegol yn llunio rhan o'r Cytundeb Mynediad Rhwydwaith. Er mwyn hwyluso'r broses o'i ddiweddaru, caiff ei gyhoeddi'n ddwy ran. Mae Rhan 1 yn disgrifio'r agweddau technegol a diogelwch ar y rhwydwaith e-drawsgludo, a'r gofynion ar gyfer cymryd rhan ynddo. Mae Rhan 2 yn disgrifio sut i ddefnyddio'r rhwydwaith. Ceir y fersiynau diweddaraf o'r holl ddogfennau ar y dudalen telerau ac amodau.
- Amodau defnyddio'r Porthol - y telerau, amodau a'r rhwymedigaethau sy'n rhaid eu derbyn gan y cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaethau gwybodaeth a'r gwasanaethau rhoddwyr benthyg a ddarperir drwy'r Porthol ac sy'n rheoli sut y mae cwsmeriaid yn defnyddio'r system.
- Nodiadau arweiniad y Porthol - am wybodaeth am sut i ddefnyddio e-wasanaethau busnes y Gofrestrfa Tir (gwasanaethau gwybodaeth, gwasanaethau rhoddwyr benthyg, gwasanaethau rhwydwaith).
- Cytundeb Mynediad Rhwydwaith Llawn - y cytundeb sy'n rhoi'r awdurdod i gwsmeriaid busnes gael mynediad i'r gwasanaethau rhwydwaith.
- Côd Ymarfer - arferion y Gofrestrfa Tir ar gyfer newid y Cytundeb Mynediad Rhwydwaith a'r Llawlyfr Technegol.
- Llawlyfr Technegol Rhan 1 - rhan o'r Cytundeb Mynediad Rhwydwaith. Mae Rhan 1 yn ymwneud â'r gofynion a'r rhwymedigaethau technegol.
- Llawlyfr Technegol Rhan 2 - rhan o'r Cytundeb Mynediad Rhwydwaith. Y llawlyfr "sut i wneud" yw Rhan 2.
- Memorandwm cyd-ddealltwriaeth y Porthol - rhoddwr benthyg yn unig - i'w lofnodi gan Roddwyr Benthyg i'w galluogi i baratoi a chyflwyno rhyddhadau electronig (eDS1au) yn uniongyrchol gyda'r Gofrestrfa Tir.
- Telerau ac amodau chwilio am eiddo - mae'n egluro rhwymedigaethau'r defnyddiwr ar gyfer gwefan Chwilio am Eiddo y Gofrestrfa Tir.
- Hysbysiadau Atodlen 2 - rhybuddion o dan reol 14 ac Atodlen 2 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (sy'n cyhoeddi'r trefniadau ar gyfer cyflwyno ceisiadau electronig).
|