E-wasanaethau

Mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnig llawer o’i gwasanaethau ar ffurf electronig (e-wasanaethau). Cynlluniwyd rhai gwasanaethau i’w defnyddio gan y cyhoedd a datblygwyd eraill i’w defnyddio gan fusnesau.

E-wasanaethau cyhoeddus

Gall aelodau’r cyhoedd gael copïau electronig o gofrestri teitl, cynlluniau teitl a chanlyniadau’r Flood Risk Indicator ar gyfer dros 22 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Gellir prynu copïau electronig a’u llwytho i lawr ar ffurf PDF trwy wasanaeth ‘Find a property’ y Gofrestrfa Tir.

E-wasanaethau busnes

Gall busnesau a chyrff corfforaethol eraill gael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau electronig. Cânt eu galw’n E-wasanaethau busnes gyda’i gilydd a cheir mynediad iddynt trwy borthol y Gofrestrfa Tir. Maent wedi’u rhannu’n dri grŵp gwasanaeth a llywodraethir pob un ohonynt gan gytundeb: Gwasanaethau Gwybodaeth; Gwasanaethau  Rhoddwr Benthyg; a Gwasanaethau Rhwydwaith.