Amdanom ni Mae’r farchnad eiddo’n newid yn gyflym. Fel yr awdurdod ym maes gweithdrefnau cofrestru gall y Gofrestrfa Tir ddarparu addysg hyblyg a fydd yn rhoi mantais i chi. Rydym yn cynnig digwyddiadau hyfforddiant am ddim, cymwysterau proffesiynol, cyrsiau a seminarau ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i ddatblygu’ch sgiliau cofrestru tir. Fel darparwr hyfforddiant proffesiynol, mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnig dewis eang o gyrsiau a chan ein bod yn arweinwyr ym maes y gyfraith ac ymarfer sy’n datblygu ym myd trawsgludo, gallwn drosglwyddo ymarfer newydd ym maes cyfraith eiddo a fydd o fantais i chi yn eich gwaith beunyddiol. Gall ein tîm o gyfreithwyr ac arbenigwyr gynnig dewis o opsiynau i addasu’ch hyfforddiant yn unol â’ch gofynion ac os ydych chi’n drawsgludwr sydd am gynyddu’ch amser DPP, gall ein portffolio hyfforddiant cwsmeriaid roi’r oriau i’ch helpu i gyrraedd y nod hynny mewn modd sy’n gyfleus i chi. Mae modd ennill cymwysterau proffesiynol ar lefel tystysgrif neu ddiploma ac, os yw’n well gennych, gallwn ddarparu’n pecynnau e-ddysgu i’ch cyfrifiadur. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r tudalennau canlynol: |