Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Education & training
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Rhestrau gwirio cwsmeriaid

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella addysg a hyfforddiant yn barhaus, ac yn dilyn adborth gan gwsmeriaid, mae'r Gofrestrfa Tir wedi cynhyrchu cyfres o restrau gwirio sy'n trafod y rhan fwyaf o faterion ymholiad. Bydd defnyddio'r rhain yn eich cynorthwyo i sicrhau bod yr holl ddogfennau a gwybodaeth sylfaenol yn gywir pan fyddwch yn cyflwyno cais. Dylai hyn arwain at leihau nifer yr ymholiadau a godir, ac yn golygu bod modd cwblhau mwy o geisiadau yn gyflym ac yn gywir, gan arbed amser ac arian i ymarferyddion a'r Gofrestrfa Tir.

Mae'r rhestrau gwirio hyn yn bennaf i staff sy'n paratoi ceisiadau i gofrestru ond gall eraill eu defnyddio hefyd. Mae'n bosib yr hoffech ddefnyddio'r rhestrau gwirio fel cymorth hyfforddi i staff newydd neu i loywi gwybodaeth pan fo angen. Mae'n bosibl hefyd yr hoffech gynnwys copi o'r rhestr wedi'i chwblhau gyda'ch cais i ddangos eich bod wedi ystyried yr holl bwyntiau perthnasol. Er hwylustod mae pob rhestr wirio yn cyfeirio at gyfarwyddiadau ymarfer perthnasol rhag ofn y bydd angen gwybodaeth fwy manwl ar bwnc penodol arnoch.

I edrych ar y rhestrau gwirio a'u llwytho i lawr, dilynwch y cysylltau yn y panel.

Os hoffech dderbyn y rhestrau gwirio ar ffurf wahanol anfonwch e-bost at Peter Woolstenholmes peter.woolstenholmes@landregistry.gsi.gov.uk

Hoffem glywed eich barn, felly os oes gennych unrhyw sylwadau ac awgrymiadau am y rhestrau gwirio, llenwch y ffurflen werthuso a'i hanfon at:

Peter Woolstenholmes
Grŵp Addysg a Hyfforddiant
Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa
Lincoln's Inn Fields
Llundain
WC2A 3PH

Rhestrau gwirio cyfredol

Pwyntiau cyffredinol

Rhyddhau, trosglwyddo ac arwystlon

Buddion trydydd parti
(hy cyfyngiadau a rhybuddion)

Cofrestriad cyntaf

Ceisiadau prydlesol

Chwiliadau swyddogol:  
o'r cyfan - ffurflen OS1
o ran - ffurflen OS2
heb flaenoriaeth - ffurflen OS3
o'r map mynegai - ffurflen SIM

Copïau swyddogol:
o'r gofrestr/cynllun teitl - ffurflen OC1
o ddogfennau - ffurflen OC2

Adborth