Mae'r Gofrestrfa Tir yn darparu hyfforddiant ar ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir ar gyfer ymarferyddion ar bob lefel. Pwy gwell na'n harbenigwyr i'ch helpu i wella'ch gwybodaeth o weithdrefnau trawsgludo cofrestredig? P'un ai rydych chi wedi cydweithio gyda ni am lawer o flynyddoedd, neu’n hollol newydd i faes trawsgludo, beth am adael i ni eich helpu ac, ar yr un pryd, cael oriau DPP dan gynlluniau Cymdeithas y Cyfreithwyr, Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig?
"Mae llwyth o bethau yma i ddiwallu anghenion hyfforddiant cyfreithwyr mewn agwedd ar y gyfraith sy’n newid yn gyflym. Mae diweddaru gwybodaeth yn y maes hwn yn hollbwysig ac mae popeth y gallai fod ei angen ar gyfreithwyr yma.”
Cymdeithas y Cyfreithwyr
Ein hyfforddiant arbenigol:
Tra bod y wybodaeth gefndirol hon yn Gymraeg, sylwch fod y seminarau a’r drefn ar gyfer cadw lle a gwneud ymholiadau ar gael yn Saesneg yn unig. Os ydych yn cadw lle ar seminar neu wneud ymholiad trwy'r wefan fe gewch eich ailgyfeirio i dudalen Saesneg.