I drefnu seminarau yn eich cwmni llenwch y ffurflen gais neu'r ffurflen ymholiad cyffredinol. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich ymholiad trwy ebost ac yn cysylltu â chi trwy ffôn neu ebost i drafod eich cais ymhellach a’i gadarnhau.
I gadw lle ar seminar agored dewiswch ddyddiad a lleoliad a llenwch ffurflen cadw lle. Bydd ein cynrychiolwyr yn cadarnhau eich cais ac yn trafod unrhyw anghenion penodol a all fod gennych. Byddant hefyd yn esbonio'r telerau ac amodau. Dylech gadw lle o leiaf bythefnos cyn dyddiad y seminar agored rydych am ei fynychu.
Polisi canslo
Bydd rhaid canslo'n ysgrifenedig bob amser. Sylwch ein bod yn cadw'r hawl i amrywio neu ganslo seminar neu fanylion rhaglen seminar heb rybudd. I ganslo cwrs, llenwch ffurflen ganslo ac anfonwch eich cais. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o'ch cais i ganslo.