Gallwch fanteisio ar ymdriniaeth fanwl un o'n seminaru wrth eich desg eich hun, gyda'n pecyn e-ddysgu cyntaf i fod yn achrededig ar gyfer DPP.
Cynulleidfa: Trawsgludwyr/myfyrwyr
Lefel: Uwch
DPP: 3 awr ar gyfer trawsgludwyr
- Cyfle i wella'ch dealltwriaeth o hawddfreintiau yng nghyd-destun cofrestru tir gyda’n CD-ROM newydd cynhwysfawr wedi’i greu gan arbenigwyr y Gofrestrfa Tir
- Diweddarwch eich gwybodaeth o’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd lle gall hawddfreintiau godi gyda phenodau hawdd eu dilyn, ymarferion profi gwybodaeth a chymhorthion desg.
I archebu'r CD-ROM llenwch y ffurflen archebu CD- ROM
Dilynwch y cyswllt i gael rhagolwg o'r CD-ROM
Rydym yn gwybod pa mor brysur rydych chi, felly mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau e-ddysgu am ddim i chi eu defnyddio a chyfeirio yn ôl atynt pan fo’n gyfleus ar ein gwefan. Mae’r deunyddiau hyfforddiant ar-lein am ddim yn cynnwys dewis cynyddol o gymhorthion desg, rhestrau gwirio a modiwlau hyfforddiant ar-lein (heb fod an achrededig ar gyfer DPP). Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r ddarpariaeth hon i’ch cynorthwyo i ddysgu. Ewch i adran Addysg a Hyfforddiant ein gwefan.
Dyluniwyd ein llyfrgell o gyfarwyddiadau ymarfer a bwletinau i’ch tywys trwy’r agweddau mwy anodd ar ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir. Cânt eu diweddaru pan fo ymarfer neu ddeddfwriaeth berthnasol yn newid. Gallwch gael copïau o’r cyfarwyddiadau hyn am ddim o’n canolfannau gwybodaeth cwsmeriaid neu maent ar gael i’w llwytho i lawr o’n gwefan.